A A A

Bywyd o dan y dŵr ar gyfer Ysgolion Uwchradd

Croeso i #ArFrigYDon – prosiect addysg newydd sydd wedi’i ddylunio i hysbysu pobl am ein planed las ryfeddol a’i hysbrydoli i gymryd camau gweithredu.

Mae ein cefnforoedd yn wynebu llawer o beryglon gan gynnwys llygredd, dinistrio cynefinoedd, rhywogaethau ymledol, a gostyngiad dramatig mewn stociau o bysgod cefnforol a newid hinsawdd byd-eang.

Rydym eisiau sicrhau bod gan athrawon yr holl adnoddau sydd eu hangen i gynyddu dealltwriaeth disgyblion o’r materion hyn.

Gan weithio mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Gadwraeth Forol a gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, rydym wedi datblygu adnoddau ar gyfer ysgolion uwchradd a fydd yn helpu athrawon i gynnal gweithdai a sesiynau addysgol.

Isod, mae dolenni i wybodaeth gefndirol, cynlluniau gwersi, syniadau codi ymwybyddiaeth ac arweiniad ymarferol ar gyfer cydlynu digwyddiadau a diwrnodau gweithredu.

Ymunwch â ni a byddwch ar frig y don o newid mae ein planed ei angen.

Pam fod Cefnforoedd yn Bwysig?

Nid yw’n bosibl tanbrisio gwerth diogelu ein cefnforoedd.  Dyma rai prif ffeithiau:

  • Mae’r cefnfor sy’n gorchuddio dros 70% o’r ddaear yn rhan o system cynnal bwyd ein planed. Mae’n rhoi dŵr ffres ac ocsigen i ni, mae’n amsugno gwres a charbon deuocsid, yn rheoleiddio’r hinsawdd, yn dylanwadu ar ein tywydd ac yn effeithio ar ein hiechyd.
  • Mae’r cefnfor yn gartref i fioamrywiaeth anhygoel ac yn cynnwys y doreth fwyaf o fywyd ar ein planed.
  • Mae ein harfordir ysblennydd ac amrywiol yng Nghymru yn esiampl o ba mor werthfawr yw’r amgylchedd hwn. Mae’r arfordir sy’n cwmpasu 1,700 o filltiroedd yn gartref i amrywiaeth eang o rywogaethau, o adar môr i famaliaid morol, morwellt a fforestau lludwymon.
  • Mae 60% o boblogaeth Cymru yn byw mewn ardal arfordirol ac mae llawer o’n prif drefi a’n dinasoedd wedi’u lleoli ar hyd yr arfordir.
  • Mae amgylchedd morol sy’n ffynnu yn hanfodol nid yn unig i fywyd gwyllt ond hefyd i economi Cymru a’r rhai sy’n byw yna.

Yn anffodus, nid yw dyfodol iach ein cefnfor wedi’i warantu, ac yn aml rydym yn gweithredu mewn ffyrdd sy’n effeithio’n negyddol ar ei gyflwr.   Mae’r cefnfor yn wynebu llawer o beryglon gan gynnwys llygredd, dinistrio cynefinoedd, rhywogaethau ymledol, gostyngiad dramatig mewn stociau pysgod cefnforol a newid hinsawdd byd-eang.

Adnoddau #ArFrigYDon

Mae cynnwys ein hadnoddau wedi’i wreiddio yng Nghymru, gyda’r nod o ddatblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth a dealltwriaeth o faterion cefnforol lleol.  Mae’r adnoddau yn edrych ar faterion byd-eang hefyd, gan gryfhau datblygiad disgyblion fel dinasyddion cyfoes Cymru a’r byd.

Bydd pob cynllun gwers yn cynnwys dolenni cwricwlwm manwl a bydd yr adnodd ei hun yn cyflwyno’r cyfle i ysgolion ddefnyddio dull thematig integredig dros y Meysydd Dysgu a Phrofiad, gan gefnogi disgyblion i wneud cysylltiadau eglur ar draws y cwricwlwm.

Ar gyfer Cyflwyniadau Pwerbwynt sy’n medru cael eu lawr lwytho, cliciwch yma er mwyn ymweld gyda’n hadnoddau ar Hwb.

Cyflwyniad i’r Cefnfor

Yn y cyflwyniad hwn, bydd disgyblion yn dysgu i adnabod pryderon amgylcheddol a datblygu atebion rhagweithiol i faterion amgylcheddol wrth archwilio pa mor bwysig yw’r cefnfor i fywyd.

Bioamrywiaeth
Gwasanaethau Ecosystem
Bygythiadau i’r cefnfor

Materion yn ymwneud â’r Cefnfor

Yn yr adran hon,  bydd disgyblion yn archwilio materion yn ymwneud â’r cefnfor, gan ganolbwyntio ar lygredd morol, newid hinsawdd a physgota cynaliadwy.

Mae’r gwersi hyn yn archwilio’r bygythiadau sy’n dod yn sgil llygredd morol. Mae’n gwahodd disgyblion i archwilio sut mae llygredd yn cyrraedd ein dyfroedd a pha gamau gweithredu y gall pobl eu gwneud i atal llygredd dŵr. Mae’r gwersi hefyd yn arwain disgyblion i ddarganfod pam fod cefnfor iach mor bwysig wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd a chefnogi bywyd morol.

Bydd disgyblion yn datblygu eu dealltwriaeth o bwysigrwydd ymddwyn yn gynaliadwy a sut y  gallan nhw wneud newidiadau cadarnhaol fel unigolion, ysgol neu gymuned.

Llygredd morol, Ffynonellau i’r môr
Llygredd morol, Llygredd morol
Llygredd morol, Llygredd plastig
Llygredd morol, Microffibrau
Llygredd morol, Stopio’r Bloc
Llygredd morol, Llygredd anweladwy
Newid hinsawdd
Pysgod cynaliadwy

Cymryd camau gweithredu yn eich ysgol

Ar ôl darganfod ein syniadau #ArFrigYDon ym mhob cynllun gwers, mae’r adran hon yn cyflwyno canllawiau a syniadau defnyddio i helpu disgyblion i godi mwy o ymwybyddiaeth yn eu hysgolion, eu cymunedau a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Cymryd camau gweithredu yn eich ysgol
Ymgyrchu a newid ymddygiad
Trefnu digwyddiad glanhau
Economi Gylchol

Ein rhaglenni addysg

Ydych chi’n gwybod bod bron hanner miliwn o bobl ifanc yn cymryd rhan yn ein rhaglenni addysg?

Mae ein tîm addysg yma i gefnogi ysgolion a cholegau ar bob cam eu taith-eco, gan ddarparu arweiniad arbenigol, adnoddau a hyfforddiant.

Eco-Sgolion

Ffordd wych o ddechrau archwilio a gwella amgylchedd eich ysgol yn barhaol yw gwneud yn siŵr bod eich ysgol yn Eco-ysgol.

Darllen mwy
Gohebyddion Ifanc

Anogwch eich disgyblion i gofnodi eu gweithgareddau #ArFrigYDon a gallan nhw fod yn rhan o gystadleuaeth ryngwladol!

Darllen mwy