Fy Nghoeden, Ein Coedwig

Crëwch goetir bach yn eich ysgol a helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth.

Rydym yn falch o gefnogi rhaglen ‘Fy Nghoeden, Ein Coedwig’ Llywodraeth Cymru. Gan weithio mewn partneriaeth â Maint Cymru, rydym yn rhoi cyfle i 100 o ysgolion gael coetir bach wedi ei blannu ar eu tir.

Bydd ysgolion dethol yn cael cymorth arbenigol i blannu eu coed, a gweithdai addysgiadol fydd yn ysbrydoli, gan Cadwch Gymru’n Daclus a Maint Cymru er mwyn sicrhau bod y disgyblion yn deall pwysigrwydd coed ar raddfa leol a byd-eang. Mae’r cynllun am ddim i ysgolion gwladol.

Child planting a tree sapling

Mae ceisiadau ar gyfer Fy Nghoeden, ein coedwig nawr wedi cau.

Mae ceisiadau ar gyfer Fy Nghoeden, ein coedwig nawr wedi cau. Diolch yn fawr i bawb wnaeth ddangos diddordeb yn y cynllun.

Fe fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn adnoddau, offer a help proffesiynnol er mwyn plannu eu coed.

Fe fydd ymweliadau ysgol a sesiynau plannu yn weithredol tan Fawrth 31ain 2023

Gofynion hanfodol, cymhwysedd a’r broses ymgeisio

  • Mae’n rhaid i ysgolion â diddordeb gwblhau’r ffurflen mynegiant o ddiddordeb yn llawn.
  • Mae’n rhaid i’r ysgolion fod ar gael i’r plannu ddigwydd rhwng 1 Hydref 2022 a 31 Mawrth 2023.
  • Mae’n rhaid i ysgolion gael ardal o faint addas i’r coed gael eu plannu. Mae posibilrwydd o blannu’r coed rhwng mwy nag un ardal neu eu plannu fel gwrych.
    • Bydd 60 o goed angen tua 12×1.5 metr ar gyfer gwrych neu 240 metr sgwâr ar gyfer coetir bach.
    • Bydd 120 o goed angen 24×1.5 metr ar gyfer gwrych a 480 metr sgwâr ar gyfer coetir bach.
  • Mae’n rhaid i’r ddaear fod yn addas ar gyfer plannu coed. Mae hyn yn golygu dim tarmac, nac ardaloedd o lystyfiant gwyllt neu ddwys. Dylid gallu treiddio i mewn i’r pridd i ddyfnder pren mesur 30 centimetr.
  • Mae angen i ysgolion llwyddiannus ymrwymo i ddiogelu a chynnal y coed sydd wedi eu plannu yn yr hirdymor.
  • Dylai’r safle dewisol ar gyfer y coed fod yn addas ar gyfer y coed pan fyddant yn eu llawn dwf, yn amharu dim ac yn cyflwyno dim perygl i’r gymuned ehangach.
  • Dylai ysgolion dethol ymrwymo i fod yn rhan o’r rhaglen Eco-Sgolion.

Cwestiynau Cyffredin
A fydd disgyblion yn rhan o’r gwaith plannu coed?
Beth yw’r ymrwymiad?
Pwy all wneud cais am becynnau?
Beth yw’r gweithdai addysgiadol sydd yn rhan o’r pecyn?
Rydym wedi derbyn pecyn Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Cadwch Gymru’n Daclus o’r blaen, neu wedi derbyn coed o ffynonellau eraill, a ydym yn gallu gwneud cais?
Nid ydym yn rhan o’r rhaglen Eco-Sgolion – a ydym yn gallu gwneud cais?
Sut gallaf wneud cais?
Pryd fyddaf yn clywed a ydym wedi bod yn llwyddiannus?
Beth yw What3words a pham y mae’n rhaid i ni ei ddefnyddio?
Beth yw’r gost?

Eco-Sgolion

Mae Eco-Sgolion yn rhaglen fyd-eang sy’n ymgysylltu â 19.5miliwn o blant ar draws 70 o wledydd, sy’n golygu mai hon yw’r rhaglen addysgol fwyaf ar y blaned. Datblygwyd gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE) ym 1994 ac fe’i cynhelir yng Nghymru gan Gadwch Gymru’n Daclus.

Darganfod mwy am Eco-Sgolion

Cymerwch ran

Ymuno â digwyddiad neu weminar, cofrestru eich diddordeb neu ddysgu sut i wneud cais am wobr.

Gweld yr holl ddigwyddiadau