Mewn ysgolion a cholegau, gellir cysylltu YRE i gwricwlwm llawer o bynciau fel Saesneg, Daearyddiaeth, Gwyddoniaeth, Ffotograffiaeth a’r Cyfryngau Creadigol ac mae’n gyfle ymarferol i bobl ifanc arddangos eu sgiliau naill ai yn unigol neu ar sail grŵp.
Gall myfyrwyr addysg bellach ac uwch greu gwaith o ansawdd i ychwanegu at bortffolios, a chyfrannu at waith cwrs a CVs.
Gall sefydliadau ieuenctid gydweithio ar weithgareddau ymarferol yn seiliedig ar brosiectau sydd yn arwain at geisiadau grŵp neu unigol.
Ewch i’r wefan YRE Global.
Awgrymiadau defnyddiol ar gynhyrchu darn newyddiadurol.
Cael eich ysbrydoli. Gweld beth mae gwledydd eraill wedi'i gynhyrchu.
Dechreuwch eich myfyrwyr ar eu taith YRE gyda’r cynlluniau gwersi strwythuredig hyn gyda gweithgareddau, aseiniadau ac adnoddau ychwanegol. Saesneg yn unig ar y foment