Mae Gohebwyr Ifanc dros yr Amgylchedd gartref yn her a osodir i helpu i godi ymwybyddiaeth o fater amgylcheddol gwastraff plastig. Mae yna dri chategori o gystadleuaeth y gellir eu cynnal gartref.
Crëwch fideo 2 funud yn dangos ffordd greadigol o leihau plastig yn y cartref a pham y credwch ei fod yn bwysig.
A oes gennych chi syniad creadigol i leihau faint o wastraff plastig sydd yn eich tŷ? Ydych chi’n ymfalchïo yn y ffaith eich bod yn taflu cyn lleied o blastig i ffwrdd? Ydych chi wedi ailddefnyddio hen blastig mewn ffordd ddiddorol? Crëwch fideo i ddangos y ffordd yr ydych yn lleihau gwastraff yn y cartref. Byddai esbonio pam y mae angen i ni leihau gwastraff plastig yn y lle cyntaf yn syniad da hefyd. Byddwch mor greadigol ag y dymunwch ond cadwch eich fideo o dan ddwy funud!
Tynnwch lun sydd yn codi ymwybyddiaeth o lygredd a gwastraff plastig.
Mae angen i ffotograff da ddal sylw. Gall fod yn rhywbeth sydd yn ysbrydoli, neu’n rhywbeth sydd yn procio’r meddwl, llun sydd yn dweud stori efallai neu’n ddelwedd sydd yn syfrdanu. Ar gyfer y gystadleuaeth hon rydym yn chwilio am rywbeth sydd yn tynnu sylw ac yn codi ymwybyddiaeth o broblem sbwriel plastig.
Tynnwch eich lluniau gartref, yn yr ardd neu ar daith gerdded, yna dewiswch yr un gorau. Bydd angen teitl arno a disgrifiad byr yn nodi pam y credwch ei fod yn llun da ar gyfer codi ymwybyddiaeth o broblem plastig yn ein hamgylchedd (dim mwy na 100 o eiriau).
Allwch chi ysgrifennu adroddiad sydd yn denu sylw am beryglon llygredd plastig a’r angen i leihau gwastraff plastig?
Byddai meddwl am fater yn ymwneud â gwastraff plastig sydd yn lleol i chi, yn eich cartref eich hun efallai, a’i gysylltu â phroblem fyd-eang plastigau yn y cefnfor, yn gais da iawn. Bydd angen i chi wneud rhywfaint o ymchwil – canfod faint o wastraff plastig yr ydych yn ei greu mewn diwrnod efallai, neu ddod o hyd i ffeithiau ar-lein. Bydd adroddiad da hefyd yn cynnig atebion i’r broblem – efallai y byddwch yn cael syniad fydd, rhyw ddiwrnod, o gymorth i’r byd! Ni allwch ysgrifennu mwy na 1000 o eiriau a gall gynnwys eich lluniau neu eich darluniau eich hun.
Lle y bo’n bosibl, lanlwythwch eich gwaith i’r cyfryngau cymdeithasol a rhowch wybod i ni. Tagiwch ni (Twitter) @YREWales @YREInt @EcoSchoolsWales @Keep_Wales_Tidy (Instagram) @ecoschooslwales @keepwalestidy Ia defnyddiwch yr hashnodau canlynol #YREstayshome #YoungReporters #LitterLessCampaign ar unrhyw gyfryngau cymdeithasol.
Danfonwch eich ceisiadau ar gyfer cystadleuaeth YRE i yre@keepwalestidy.cymru gan nodi eich enw, eich oed a’ch ysgol.