Cadwch Gymru’n Daclus yw’r elusen sydd wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau lleol ar draws Cymru i ddiogelu ein hamgylchedd nawr ac i’r dyfodol.
Yn ymarferol, rydym yn gwybod bod amgylchedd o ansawdd da yn bwysig i bobl ac y gall y buddion wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n hiechyd, ein llesiant, i gymunedau ac i’r economi. Ac yn hollbwysig, mae’n wych i natur hefyd.
Ein gweledigaeth fel elusen yw am Gymru hardd y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau.
Mae Cymru Hardd yn amlinellu sut byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus, sefydliadau partner, grwpiau cymunedol a’n byddin o wirfoddolwyr i greu gwlad yr ydym i gyd yn falch o’i galw’n hardd.
Mae’r strategaeth yn un syml sydd yn addo dileu sbwriel a gwastraff, gosod safonau ar gyfer rhagoriaeth amgylcheddol, creu ac adfer mannau gwyrdd a grymuso ieuenctid ar faterion amgylcheddol. Edrychwch ar y cynllun drosoch chi eich hun.
Gellir olrhain tarddiad Cadwch Gymru’n Daclus yn ôl i’r 1950au, pan arweiniodd balchder yn y DU ar ôl y rhyfel y ffordd wrth fynd i’r afael â phroblem gynyddol sbwriel. Ymatebodd Sefydliadau’r Merched trwy greu grŵp Cadwch Gymru’n Daclus.
Ewch ymlaen i 1972, pan gafodd ymgyrch Cadwch Gymru’n Daclus ei lansio.
Dechreuodd fel Cyfarwyddiaeth Cymru o’r Tidy Group nes i ddatganoli ddechrau ac yn 2005, daeth Cadwch Gymru’n Daclus yn sefydliad elusennol annibynnol.
Rydym yn falch o fod yn aelod o’r Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE).
Mae rhaglenni FEE, sy’n weithredol ar draws y byd, yn helpu cymunedau i sylweddoli buddion byw’n gynaliadwy trwy addysg a dysgu gweithredol.
Rydym yn cyflwyno pedair rhaglen FEE yng Nghymru:
Rhyddhau cynaliadwyedd yn y diwydiant twristiaeth.
Eco-label a gydnabyddir ar draws y byd y mae miliynau o bobl yn fyd-eang yn ymddiried ynddo ar gyfer traethau, marinas a chychod.
Addysg amgylcheddol nawr ac i’r dyfodol.
Grymuso pobl ifanc i ddweud straeon am eu hamgylchedd.