Mae tîm Cadwch Gymru’n Daclus yn cael ei arwain gan y Prif Swyddog Gweithredol, Owen Derbyshire.
Mae Owen wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredol ers mis Hydref 2022 ac mae’n gyfrifol am arwain y gwaith o gyflwyno rhaglenni strategol Cadwch Gymru’n Daclus, sydd i gyd yn cael effaith gadarnhaol a phwysig ar yr amgylchedd yng Nghymru.
Yn flaenorol, bu’n gweithio i S4C fel Cyfarwyddwr Marchnata a Digidol, a chyn hynny, cafodd yrfa fel entrepreneur technoleg, yn gweithio ar draws amrywiaeth o sectorau.
Mae Owen hefyd wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Anweithredol, Cynghorydd ac Ymddiriedolwr sawl bwrdd yn cynnwys S4C, Shelter Cymru, Promo Cymru, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg, Bwrdd Technoleg y Gymraeg, a’r Panel Defnyddwyr Gwasanaethau Cyfreithiol. Mae ar hyn o bryd yn Aelod Anweithredol o Fwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin.
Pan nad yw’n arwain Cadwch Gymru’n Daclus, mae Owen yn mwynhau treulio amser gyda’i wraig Sophie, ei ferch Efa, a’i gi Lili, ym Mro Morgannwg.