Mae gennym gyfle rhagorol i arweinydd deinamig, ymgysylltiol a chynhwysol ymuno â ni fel Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus.
Ar ôl cyflawni blynyddoedd lawer o wasanaeth, mae pennaeth presennol ein sefydliad yn ymddeol. Wrth i ni ddechrau ein dathliadau hanner can mlwyddiant, rydym yn chwilio am arweinydd fydd yn ysbrydoli i’n helpu i ddatblygu ein cyflawniadau ac atgyfnerthu ein henw da fel elusen amgylcheddol flaenllaw.
Byddwch yn atebol i Gadeirydd ein Bwrdd ac yn gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolwyr a’r tîm rheoli gweithredol i roi cyfeiriad strategol, clir. Byddwch yn cael cyfle i arwain tîm o fwy na 70 o unigolion ymrwymedig ac angerddol, gan feithrin diwylliant arloesol a chefnogol.
Os ydych yn rhannu ein gweledigaeth o Gymru hardd y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau, byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais i ymuno â ni.
Sut i wneud cais
Dylid anfon eich CV, eich datganiad personol a’ch ffurflen cyfle cyfartal i HR@keepwalestidy.cymru
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd 6 Mehefin.
Cynhelir cyfarfodydd rhagarweiniol rhanddeiliaid a chyfweliadau ffurfiol yn ystod yr wythnos yn dechrau 20 Mehefin.