Os ydych yn unigolyn brwdfrydig sydd yn ysbrydoli gyda chefndir mewn addysg a diddordeb yn yr amgylchedd ac yn gallu gweld eich hun yn y rôl hon, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych.
Cyflog: £28,004 Yn atebol i: Rheolwr Addysg Yn gyfrifol am: Darparu gweithgareddau addusg Lleoliad: Wedi’i leoli gartref yn rhanbarth De-ddwyrain Cymru, gyda’r cyfle i weithio’n rhithiol gydag ysgolion ledled Cymru. Daliadaeth: Sefyllfa barhaol, yn amodol ar gyllid parhaus o fis Ebrill 2025 Oriau: Bydd gweithio 35 awr yr wythnos llawn amser neu gweithio rhan amser yn cael eu hystyried.
Rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i iechyd a lles ein staff ac yn cynnig ystod eang o fuddion staff.
Mae hwn yn gyfle cyffrous newydd yn Nhîm Cadwch Gymru’n Daclus.
Byddwch yn ymuno â thîm cefnogol sefydledig sydd wedi ymrwymo i gyflwyno addysg amgylcheddol i bobl ifanc.
Fel Swyddog Addysg byddwch yn hyrwyddo ac yn datblygu prosiectau addysgol yn cynnwys y rhaglen EcoSgolion. Yn eich rhanbarth byddwch yn gweithredu fel pwynt cyswllt addysgol Cadwch Gymru’n Daclus ac yn cynorthwyo gyda chyflwyno a datblygu rhaglenni. Bydd y rôl yn cynnwys cymysgedd o weithdai ymarferol wyneb yn wyneb a rhithiol gyda disgyblion o bobl oed a hyfforddiant ar gyfer addysgwyr. Bydd y rôl yn hyblyg gyda blaenoriaethau’n nnewid yn dibynnu ar ffynonellau cyllid a blaenoriaethau cenedlaethol presennol.
Sut i wneud cais Mae’n bwysig iawn i ni ddod o hyd i’r bobl iawn ar gyfer y rôl; pobl a fydd yn cefnogi llwyddiant parhaus tîm addusg Cadwch Gymru’n Daclus.
Os hoffech chi gael y cyfle i’n cefnogi yn ein gwaith, anfonwch eich CV a datganiad personol atom ni.
Gellir darparu’r datganiad personol fel fideo neu’n ysgrifenedig gan ddefnyddio’r templed sydd wedi’i ddarparu. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw esbonio sut rydych chi’n teimlo y byddech chi’n ffitio i mewn i’n tîm a’r hyn y gallech chi ei gynnig.
E-bostiwch eich cais at hr@keepwalestidy.cymru erbyn canol dydd ar ddydd Llun 27 Tachwedd 2023.
Byddwn yn gwahodd ymgeiswyr ar y rhestr fer i gwrdd â ni yn ystod yr wythnos yn dechrau 4 Rhagfyr 2023 2023 i roi cyfle i ni ddysgu mwy am eich profiadau a’ch syniadau.
Os hoffech chi gael trafodaeth anffurfiol am y rôl yma yn Cadwch Gymru’n Daclus, yna cysylltwch â: hr@keepwalestidy.cymru neu ffoniwch 02920 256767. Os ydych chi angen y wybodaeth recriwtio mewn unrhyw fformat arall, cysylltwch â ni.
Os nad ydych chi wedi derbyn ymateb gennym ni yn eich gwahodd i fynychu cyfweliad erbyn 1 Rhagfyr 2023, dylech gymryd yn ganiataol eich bod wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn.