A A A

Addewid i ddangos cariad tuag at Gymru y gwanwyn hwn

Mae Cymunedau ar draws Cymru’n cael eu hannog i ymuno â Gwanwyn Glân Cymru 2022 i helpu i ddiogelu’r amgylchedd a dangos bod gweithredoedd bach ar eich stepen drws yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ymuno â phob awdurdod lleol ar gyfer Gwanwyn Glân Cymru eleni. Gyda’i gilydd, maent yn galw ar unigolion, aelwydydd, ysgolion a grwpiau cymunedol i ddod ynghyd i gasglu a gwaredu sbwriel yn ddiogel o’n strydoedd, mannau gwyrdd a’n traethau rhwng 25 Mawrth a 10 Ebrill.

Mae sbwriel yn costio tua £70 miliwn i’w godi bob blwyddyn yng Nghymru, ond mae hefyd yn cael effaith ddinistriol ar ein bywyd gwyllt morol a lleol. Mae  RSPCA Cymru yn nodi eu bod yn derbyn 200 o alwadau’r flwyddyn ar gyfartaledd, yn ymwneud ag anifeiliaid sydd wedi eu heffeithio gan sbwriel.

Mae Gwanwyn Glân Cymru yn rhan o Gwanwyn Glân Prydain Fawr, a’r llynedd, cynhaliwyd dros 300 o ddigwyddiadau glanhau ar hyd a lled Cymru gyda gwirfoddolwyr yn chwalu’r targed o filiwn o filltiroedd.

Mae Gwanwyn Glân Cymru yn rhan o Caru Cymru – menter fwyaf erioed Cadwch Gymru’n Daclus i ddileu sbwriel a gwastraff.

“Ers dechrau’r pandemig, mae ein mannau awyr agored wedi bod yn bwysicach nag erioed o’r blaen i ni. Maent wedi bod yn noddfa mewn cyfnod heriol.“ “Rydym yn annog pawb ar hyd a lled Cymru i gymryd rhan yn ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru eleni a gwneud addewid i godi sach neu fwy o sbwriel. Gwyddom fod cymryd rhan yn yr awyr agored yn dda i’n hiechyd a’n hamgylchedd. Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth mawr”.

Lesley Jones
Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

P’un ai eich bod yn godwr sbwriel brwd neu dyma’r tro cyntaf i chi ymuno â ni, gwnewch addewid i godi un sach – neu fwy – heddiw.

Erthyglau cysylltiedig

Gwneud cyfraniad i Cadwch Gymru’n Daclus am ddim gydag easyfundraising!

02/12/2024

Darllen mwy
Datganiad CDE Cadwch Gymru’n Daclus Tachwedd 2024

19/11/2024

Darllen mwy
Ieuenctid yn arwain y galw am weithredu hinsawdd yn COP Ieuenctid Cymru 2024

15/11/2024

Darllen mwy
Parciau Cymru’n cael eu cydnabod fel y ‘gorau o’r goreuon’

14/11/2024

Darllen mwy