Rydym yn llawn cyffro i gyhoeddi bod yr anhygoel Aleighcia Scott wedi cytuno i fod yn Llysgennad Ieuenctid cyntaf erioed Cadwch Gymru’n Daclus.
Bydd yn dechrau ei rôl trwy fod yn wyneb recriwtio i’n bwrdd ieuenctid, yn ogystal ag ymgysylltu â phobl ifanc yr haf hwn.
Wedi ei magu yng Nghaerdydd, ond gyda gwreiddiau teuluol yn Trelawny, Jamaica, mae Aleighcia yn berson talentog iawn gyda nifer gynyddol o ddilynwyr, o’i gyrfa gerddorol ac yn cyflwyno ei rhaglen gyda’r nos ar BBC Radio Wales ar y cyd â Huw Stephens.
Mae Aleighcia yn awyddus iawn i ddechrau ac i weithio gyda ni ar faterion amgylcheddol, gan weithio gyda phobl ifanc. Bydd yn gweithio’n agos gyda’n tîm, yn ogystal â mynychu Sioe Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol gyda’n staff yr haf hwn.
“Rwy’n edrych ymlaen i weithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus – mae Cymru’n bwysig iawn i mi felly mae gofalu amdani’n allweddol. Hoffwn helpu gyda hynny gymaint â phosibl a hoffwn annog eraill i wneud yr un peth - Dw i'n Caru Cymru!” Aleighcia
Aleighcia
Gallwch ganfod mwy am Aleighcia a gwrando ar ei rhaglen gyda’r nos wythnosol isod:
https://www.bbc.co.uk/programmes/m00160d1
04/07/2024
06/03/2023
20/01/2023
16/01/2023