Gyda llai nag wythnos i fynd, mae amser ar ôl i gael gafael ar y codwyr sbwriel hynny a gwneud addewid i gefnogi Glanhau Moroedd Cymru.
Mae ymgyrch glanhau yr hydref yn gwneud sbloet fawr, yn targedu afonydd, dyfrffyrdd a thraethau ar hyd a lled Cymru. Mae bron 100 o ddigwyddiadau glanhau eisoes wedi eu cofrestru ar draws y wlad gyda mwy ar y gweill cyn y diwrnod olaf ar ddydd Sul 9 Hydref.
Hoffem ddiolch i’r gwirfoddolwyr, y grwpiau cymunedol, y busnesau a’r ysgolion anhygoel sydd eisoes wedi bod yn brysur yn codi sbwriel. Dyma eich cyfle i ddod â’ch tîm o arwyr sbwriel ynghyd a chofrestru eich digwyddiad eich hun neu ymuno ag un o’n digwyddiadau ni:
Cofrestrwch eich digwyddiad glanhau eich hun yma.
Ymunwch ag un o’n digwyddiadau glanhau ni yn eich ardal chi.
Dechreuodd Glanhau Moroedd Cymru yn drawiadol ym Mhowys gyda Cheidwaid Afon Hafren.
Cafodd y cyfranogwyr i gyd eu synnu ar yr ochr orau cyn lleied o sbwriel oedd ar hyd llwybr yr afon ac ym mharc y dref – y peth mwyaf nodedig oedd duvet oedd wedi cael ei adael. Ymunodd y clwb canŵio â ni yn yr afon, felly llwyddwyd i ‘achub’ drws sied, 2 gôn traffig ac arwydd ffordd allan o’r afon a chafodd y conau a’r arwydd eu dychwelyd i adran briffyrdd Cyngor Sir Powys i gael eu hailddefnyddio! Jodie GriffithsSwyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus Powys
Jodie GriffithsSwyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus Powys
Cafwyd ymdrech aruthrol yng Nghasnewydd wrth gasglu dros 400 o fagiau o sbwriel o’r Afon Wysg mewn partneriaeth â Liberty Steel a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Am ffordd o ddechrau Glanhau Moroedd Cymru gyda thros 400 o fagiau a chyfwerth mewn eitemau swmpus. Ymdrech ragorol gan bawb oedd yn gysylltiedig, yn cynnwys Cyngor Dinas Casnewydd, Newport Norse a’r holl wirfoddolwyr ar y diwrnod a wnaeth hyn yn bosibl. Diolch enfawr i Steve Preddy am ysgogi’r glanhau. Matthew SellwoodSwyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus Casnewydd
Matthew SellwoodSwyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus Casnewydd
Cymerodd grŵp o wirfoddolwyr, yn ogystal â disgyblion o Ysgol Gynradd Lôn Las yn Llansamlet yn Abertawe, ran yn yr ymgyrch Glanhau Moroedd Cymru mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Cadwraeth Forol ar Draeth Llansteffan.
Mae’n gas gen i weld yr ardal leol yn llawn sbwriel felly rydym wedi ffurfio grŵp o’r enw’r ‘Criw Clirio’ a phob ryw bythefnos, rydym yn codi sbwriel. Rhian WorrellCodwr sbwriel rheolaidd
Rhian WorrellCodwr sbwriel rheolaidd
Yn Sir Benfro, unodd purfa olew Valero Glanhau Moroedd Cymru a’r ymgyrch Great Global Nurdle Hunt ar hyd glannau hardd Freshwater West.
Roedd glanhau’r traeth yn gyfle gwych i ymuno â’r Wythnos Werdd Fawr a Glanhau Moroedd Cymru gyda’r Great Global Nurdle Hunt i godi ymwybyddiaeth a chasglu tystiolaeth o lygredd peledi plastig i’w gyflwyno er mwyn gallu defnyddio’r data i weithredu deddfwriaeth a pholisïau ar gyfer newid mewn diwydiant. Roedd cannoedd o beledi plastig a bio-leiniau i’w gweld ymysg y cerrig mân, wedi eu dal mewn gwymon, ac yn gorwedd ar ben y tywod mân. Yn ogystal â bwced o ficroplastigau, sbwriel pysgota, sbwriel carthion a’r caeadon poteli plastig arferol ac ati, llwyddwyd i gael 616 o beledi plastig a bio-leiniau oddi ar y traeth. Julie DaviesAelod o dîm Valero
Julie DaviesAelod o dîm Valero
Mewn digwyddiad Glanhau Moroedd Cymru, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru a Cyngor Sir Ynys Môn, gwelwyd 10 gwirfoddolwr gwydn yn mynd allan i glirio gwastraff morol ar Draeth Llanddwyn, yn agos at Drwyn Abermenai. Casglwyd dros 30 bag ac eitemau mwy.
Mae swm enfawr o sbwriel yn casglu yn Abermenai, sydd yn gwneud y broblem yn amlwg iawn. Cliriwyd llawer iawn ohono, oedd yn rhoi boddhad, ond yn anffodus, bydd bob amser mwy i’w wneud. Sbwriel plastig a rhaffau oedd y rhan fwyaf o’r sbwriel – dewch i ni obeithio am gynnyrch mwy cynaliadwy yn y dyfodol sydd yn achosi llai o wastraff. Yn y cyfamser, mae gweithio gyda gwirfoddolwyr glanhau traethau eraill yn ffordd wych o dreulio’r diwrnod – yn gwella’r amgylchedd tra’n cael digon o awyr iach ac ymarfer corff. Dywedodd HelenGwirfoddolwr yn y digwyddiad
Dywedodd HelenGwirfoddolwr yn y digwyddiad
Derbyniodd Glanhau Moroedd Cymru gyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
24/01/2025
18/10/2024
29/04/2024
12/03/2024