A A A

Angen Cynllun Dychwelyd Ernes nawr yn fwy nag erioed

Mae’r elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru’n Daclus, wedi cyhoeddi ei Adroddiad Cymru Gyfan blynyddol ar gyfer 2023-24, sy’n darparu’r unig fesur cyson a chadarn o ddata sbwriel stryd ar gyfer Cymru gyfan.

Eleni, fe wnaeth Cadwch Gymru’n Daclus arolygu 3,161 o strydoedd ledled Cymru rhwng Ebrill 2023 ac Ionawr 2024, yda’r canlyniadau’n cynrychioli strydoedd a fabwysiadwyd gan awdurdodau lleol yn unig ac nad ydynt yn ymestyn i barciau, traethau neu ffyrdd prysur, sy’n golygu bod canlyniadau’n debygol o arwain at danamcangyfrif sylweddol.

Roedd sbwriel diodydd yn bresennol ar 43.6% o strydoedd, gyda lefelau mewn siroedd unigol yn amrywio’n sylweddol o 19.4% o strydoedd i 86.1%.

Caniau alwminiwm yw’r cynhwysydd diodydd mwyaf cyffredin yn gyson, i’w gweld ar 18.1% o strydoedd, 3 pwynt canran yn uwch na 2022-23, ac mae nifer y poteli gwydr wedi mwy na dyblu dros y pedair blynedd diwethaf, gan gynyddu i 5.2% o strydoedd.

Gyda thuedd glir am i fyny ar gyfer caniau, poteli gwydr a phlastig, sydd i gyd yn ddeunyddiau o ansawdd da i’w hailgylchu, mae Cadwch Gymru’n Daclus unwaith eto yn galw ar Weinidogion i weithredu Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS) erbyn 2025.

Mae Adroddiad Cymru Gyfan yn rhoi mewnwelediad hanfodol i safon glendid strydoedd ledled Cymru a byddwn yn parhau i ddefnyddio'r data hwn i gynghori ar newid ac adolygu polisïau. Mae mynychter sbwriel diodydd y tu hwnt i rwystredig pan fo'r ateb - DRS cynhwysfawr - o fewn ein gafael ni. Rydym ni’n galw ar frys ar lywodraethau ledled y DU i atal oedi pellach a bwrw ymlaen â chyflwyno'r cynllun.

Owen Derbyshire
Dywedodd Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus

Dangosodd arolwg barn diweddar gan YouGov fod dwy ran o dair o gyhoedd y DU yn cefnogi cyflwyno cynllun DRS, a 36% yn cefnogi blaendal o hyd at 20c y cynhwysydd.

Mae mwy na 40 o wledydd eisoes wedi gweithredu DRS yn llwyddiannus, gan gynnwys Latfia lle gwelwyd gostyngiad o 61% mewn cynwysyddion plastig sbwriel ers cyflwyno’r cynllun yn 2022.

Cynhaliodd Cadwch Gymru’n Daclus weminar, ddydd Llun 11 Mawrth, gyda Reloop, arbenigwyr Cyfeillion y Ddaear Cymru a’r Economi Gylchol o gyrff anllywodraethol Latfia, Green Liberty, i Aelodau’r Senedd glywed am gyd-destun rhyngwladol DRS, manteision dull presennol Cymru o ymdrin â DRS a sut mae’n rhaid rhoi hyn ar waith yn gyflym.

Nod y weminar hon yw cynnal momentwm ar bwnc DRS yng Nghymru, ac rydym ni fel sefydliad yn gobeithio y bydd yr ymgysylltiad parhaus hwn gan y Senedd yn sicrhau bod DRS yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Prif Weinidog newydd yn 2024.

Jemma Bere
Rheolwr Polisi ac Ymchwil Cadwch Gymru'n Daclus

Pa Mor Lân Yw Ein Strydoedd?

Mae Crynodeb ac Adroddiad Llawn Adroddiad Cymru Gyfan 2023-24 ar gael yma

Erthyglau cysylltiedig

Cyflwyno Bin Môr Abertawe

19/02/2025

Darllen mwy
Cadwch Gymru’n Daclus yn dileu sbwriel cas!

24/01/2025

Darllen mwy
Angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng sbwriel cynyddol

18/10/2024

Darllen mwy
Oedi i’r cynllun dychwelyd ernes: ein hymateb

29/04/2024

Darllen mwy