Fel rhan o ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru eleni, mae RSPCA Cymru wedi ymuno a Cadwch Gymru’n Daclus ac yn galw ar unigolion, aelwydydd, ysgolion a grwpiau cymunedol i ymuno â ‘Her Fawr y Bagiau’ a gwneud addewid i gasglu un bag o sbwriel rhwng 25 Mawrth a 10 Ebrill.
Mae’r elusen lles anifeiliaid yn derbyn dros 200 o alwadau’r flwyddyn ar gyfartaledd am sbwriel sydd yn cael effaith negyddol ar anifeiliaid yng Nghymru. Ers 2017, mae 1,012 o ddigwyddiadau o’r fath wedi cael eu nodi yng Nghymru, gydag anifeiliaid anwes, bywyd gwyllt ac anifeiliaid eraill yn rhy aml yn cael eu heffeithio gan sbwriel sydd yn cael ei daflu’n ddiofal.
"Mae ein llinell frys yn derbyn dros 200 o alwadau ar gyfartaledd bob blwyddyn o ganlyniad i anifeiliaid sydd mewn perygl oherwydd sbwriel yng Nghymru – ac yn anffodus, mae’n debygol bod llawer mwy nad ydynt yn cael eu gweld. "Gellir osgoi’r problemau hyn yn hawdd – a dyma pam yr ydym yn falch o ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus i hyrwyddo Gwanwyn Glân Cymru, fel rhan o’n cefnogaeth i Gwanwyn Glân Prydain Fawr. “Ein hapêl i atal anifeiliaid rhag dioddef fel hyn, yn syml, yw i ymuno â ni yn Gwanwyn Glân Cymru a helpu i Gadw Cymru’n Daclus.” Carrie StonesRheolwr ymgyrchoedd newid ymddygiad yr RSPCA
Carrie StonesRheolwr ymgyrchoedd newid ymddygiad yr RSPCA
Fis Gorffennaf diwethaf, rhuthrodd Mike Pugh ac Andrew Broadbent, arolygwyr yr RSPCA, i gynorthwyo alarch oedd â sgwâr chwarae sbwng wedi ei ddal o amgylch ei gwddf. Yn ffodus iawn, ni chafodd yr alarch ei hanafu, llwyddwyd i dynnu’r sbwng yn ddiogel a dychwelwyd yr aderyn i’r gwyllt ar unwaith – ond mae’r digwyddiad yn dangos y peryglon y gall pethau sydd yn cael eu taflu’n ddyddiol eu cyflwyno.
"Yn rhy aml, mae ein swyddogion yn cael eu galw allan at anifeiliaid sydd yn cael eu rhoi mewn perygl yn ddiangen oherwydd sbwriel. "O sbwriel pysgota sydd heb ei glirio, i deganau wedi eu taflu, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol y problemau y mae’r eitemau hyn yn eu cyflwyno i anifeiliaid. "Rwyf yn parhau i annog pobl i ailddefnyddio, ailgylchu neu waredu deunyddiau yn gyfrifol; ac i ddarllen cyngor yr RSPCA ar y ffordd y mae taflu sbwriel yn effeithio ar anifeiliaid, a’r hyn y gall pobl ei wneud i’w atal." Mike PughArolygwyr RSPCA
Mike PughArolygwyr RSPCA
P’un ai eich bod yn godwr sbwriel brwd neu dyma’r tro cyntaf i chi ymuno â ni, gwnewch addewid i godi un sach – neu fwy – heddiw.
24/01/2025
18/10/2024
29/04/2024
12/03/2024