Ymunwch a sêr ‘Rownd a Rownd’ a’r S4C ac Cadwch Gymru’n Daclus i gefnogi ein ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru.
Helpwch ni i lanhau traeth Coed Cyrnol Mawrth 26 ynghyd ar actorion, a gwnewch wahaniaeth are ich stepen drws.
Mi fydd pob gwirfoddolwr yn cael ei gwahodd i ymuno a’r actorion am daith o set ‘Rownd a Rownd’ a phaned a i ddathlu eu holl waith caled.
“Rydym ni’n ofnadwy o lwcus i gael gweithio a ffilmio’r gyfres mewn rhan mor brydferth o’r wlad.” Ond heb waith diflino gwirfoddolwyr sy’n casglu sbwriel yn rheolaidd yn ein hardaloedd, byddai’r golygfeydd godidog rydym ni’n ei weld ar y teledu yn gallu bod yn wahanol iawn. Mae Rownd a Rownd yn falch iawn o gael cydweithio â Cadwch Gymru’n Daclus i gefnogi ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru eleni er mwyn cadw’n hardaloedd yr un mor hardd ar gyfer cenedlaethau i ddod.” Bedwyr ReesUwch Gynhychydd Rownd a Rownd
Bedwyr ReesUwch Gynhychydd Rownd a Rownd
Mae dros 100 o ddigwyddiadau glanhau ar draws Cymru eisoes wedi cael eu cofrestru ar gyfer Gwanwyn Glân Cymru, sydd yn rhan o Caru Cymru – y fenter fwyaf erioed i ddileu sbwriel a gwastraff.
Mae pob gwirfoddolwr o dan 18 angen bod gyda rhiant neu gwarcheidwad. Bydd niferoedd yn gyfyngedig felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru cyn gynted a phosib.
Cofrestrwch i ymuno a ni yma
18/10/2024
29/04/2024
12/03/2024
30/10/2023