Baneri Gwyrdd yn hedfan mewn 280 o fannau gwyrdd

Mae’r nifer fwyaf erioed o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru wedi cyrraedd y safon uchaf sydd ei hangen i hedfan y Faner Werdd flaenllaw.   

Rydym wrth ein bodd yn datgan bod 280 o safleoedd wedi ennill gwobr ryngwladol Y Faner Werdd a gwobr Gymunedol Y Faner Werdd.  

Mae’r llefydd sydd wedi ennill Gwobr Y Faner Werdd am y tro cyntaf yn cynnwys Parc Tredelerch yng Nghaerdydd, ystad dai Ysbyty Mount Pleasant yn Abertawe, a champysau Prifysol Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin a Llambed. 

Mae dros traean o safleoedd cymunedol Baner Werdd y DU yng Nghymru, sydd yn cael eu cynnal a’u rhedeg gan wirfoddolwyr. Mae’r rhain yn amrywio o’r ddau pwll cymunedol yng Nghasnewydd, yr orsaf dân ym Mro Ogwr, a gorsaf y Waun, yr orsaf drenau gyntaf i ennill Gwobr Gymunedol Y Faner Werdd.  

Mae’n wych gweld y nifer uchaf erioed o fannau gwyrdd yn llwyddo i gael statws Y Faner Werdd, gan gynnwys nifer o fannau sy’n derbyn y wobr am y tro cyntaf. Mae’r safon sydd ei hangen i ennill statws Y Faner Werdd yn uchel iawn ac felly hoffwn longyfarch pob un o’r mannau sydd wedi cael cydnabyddiaeth am gynnig cyfleusterau gwych drwy gydol y flwyddyn i bobl leol ac ymwelwyr. Mae ein mannau gwyrdd yn chwarae rôl allweddol yn ein cysylltu â natur, yn cynorthwyo bioamrywiaeth a chynnig cyfleoedd hamdden iach.

Julie James
Y Gwenidog dros Newid Hinsawdd

Bellach yn ei thrydydd degawd, mae Gwobr Y Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sy’n cael eu rheoli’n dda, mewn 20 o wledydd ar draws y byd.

Mae mynediad am ddim i fannau gwyrdd diogel ac o safon uchel mor bwysig ag erioed. Mae ein safleoedd sydd wedi ennill gwobr yn allweddol i iechyd meddwl a chorfforol pobl, drwy gynnig hafan i gymunedau ddod at ei gilydd, ymlacio a mwynhau natur. Mae’r newyddion bod 280 o barciau yng Nghymru wedi ennill gwobr Y Faner Werdd yn dangos gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr. Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dathlu eu llwyddiant ar lefel fyd-eang.

Lucy Prisk
Cydlynydd Y Faner Werdd i Cadwch Gymru’n Daclus

Darganfyddwch ble mae’r parc Baner Werdd agosaf i chi

Mae rhestr lawn o’r holl fannau penigamp y gellir ei lawrlwytho isod. Neu ewch i’n map i chwilio am eich parc neu fan gwyrdd y Faner Werdd yn lleol.    

Ewch i’r map

Ymunwch yn y dathliadau ar y cyfryngau cymdeithasol

I glywed y newyddion diweddaraf, dilynwch @GreenFlagWales ar y cyfryngau cymdeithasol #BanerWerddCymru 

Am gymorth cyfathrebu, cysylltwch â’r tim ar comms@keepwalestidy.cymru  

 

Erthyglau cysylltiedig

Gwobrau Arfordir Cymru 2023

12/05/2023

Darllen mwy
Gwobrau Cymru Daclus 2023: mae gennym enillwyr!

20/04/2023

Darllen mwy
Rhowch eich barn am draethau a thwristiaeth yng Nghymru

18/01/2023

Darllen mwy
Coroni Tîm Parc Bute y gorau yn y DU

22/11/2022

Darllen mwy