JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
EraillSbwriel a gwastraff

Benthyg offer am ddim a helpu i ofalu am eich ardal leol

Rhannu

Rydym yn llawn cyffro bod ein hybiau codi sbwriel cymunedol wedi ailagor ar draws Cymru. Gall unigolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol a busnesau fenthyg cyfarpar codi sbwriel am ddim i lanhau eu hardal leol.

Mae ein rhwydwaith cynyddol o hybiau yn cynnig yr holl offer sydd ei angen arnoch i gynnal ymgyrch glanhau diogel.  Mae hyn yn cynnwys codwyr sbwriel, siacedi llachar, bagiau sbwriel a chylchynnau (sydd yn hanfodol ar gyfer cadw eich bagiau yn agored os yw hi’n wyntog!).  Maent wedi cael eu sefydlu fel rhan o’n menter Caru Cymru.

Fe wnaeth yr hybiau i gyd gau yn ystod y cyfnod clo cyntaf, ond maent wedi ailagor yn ddiweddar wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio.  Mae nifer y bobl sydd wedi defnyddio’r hybiau dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn rhyfeddol, gyda chymunedau yn dod ynghyd a gwneud defnydd o’r cyfarpar am ddim i wella eu hardaloedd lleol a mynd i’r afael â gwastraff.

Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:

Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae. Mae sbwriel nid yn unig yn felltith yn ein hamgylchedd lleol, ond mae hefyd yn cael effaith sylweddol ar ein hiechyd, ein llesiant, ac ar fywyd gwyllt hefyd. Codwch wrth fynd heibio trwy ddefnyddio ein cyfarpar casglu am ddim yn eich hyb lleol. Rydym i gyd wedi gweld eisiau ein hoff leoedd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n hanfodol bod ein cymunedau, ein mannau gwyrdd a’n traethau yn cael eu cadw’n lân ac yn ddiogel i bawb eu mwynhau. Gyda’n gilydd, gallwn i gyd wneud gwahaniaeth.

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13