A A A

Bydd rhai newidiadau i ddigwyddiadau yn ystod ymgyrch Glanhau Moroedd Cymru

Fel arwydd o barch yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Brenhines Elizabeth II, rydym yn aildrefnu rhai o’n digwyddiadau.

Bydd ymgyrch Glanhau Moroedd Cymru yn mynd ymlaen o ddydd Gwener 16 Medi 2022.

Fodd bynnag, mae’r digwyddiadau a drefnwyd gan ein staff ar ddydd Llun 19 Medi, diwrnod angladd gwladol y Frenhines, wedi cael eu canslo. Os ydych wedi cofrestru i gymryd rhan mewn digwyddiad glanhau ar y dyddiad hwn, bydd Swyddog y Prosiect mewn cysylltiad â chi yn fuan.

Efallai fydd digwyddiadau a drefnwyd gan wirfoddolwyr yn dal i ddigwydd yn ôl disgresiwn y trefnydd.

Trefnwyr, ystyriwch amserau eich digwyddiadau glanhau traethau ar ddydd Llun 19 Medi, a lle y bo’n bosibl, trefnwch nhw y tu allan i amserau penodol yr angladd.

Rydym yn diolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn.

I ddod o hyd i ddigwyddiad yn eich ardal chi neu i gofrestru digwyddiad eich hun, ewch i: https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/marine-clean-cymru-2022/

Cysylltwch â ni yn uniongyrchol os oes angen cymorth neu gefnogaeth arnoch trwy comms@keepwalestidy.cymru

Erthyglau cysylltiedig

Cyflwyno Bin Môr Abertawe

19/02/2025

Darllen mwy
Cadwch Gymru’n Daclus yn dileu sbwriel cas!

24/01/2025

Darllen mwy
Angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng sbwriel cynyddol

18/10/2024

Darllen mwy
Oedi i’r cynllun dychwelyd ernes: ein hymateb

29/04/2024

Darllen mwy