Mae’r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus yn rhoi cannoedd o becynnau gardd am ddim i gymunedau ar draws y wlad.
Y llynedd, cafodd dros 500 o erddi eu creu, eu hadfer a’u gwella trwy Leoedd Lleol ar gyfer Natur. Cymerodd grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob math a maint ran – o elusennau anabledd a grwpiau ieuenctid i fentrau cymdeithasol a grwpiau gofalwyr.
Mae’r ceisiadau bellach wedi ailagor, ac mae cymunedau yn cael eu hannog i gymryd rhan ac osgoi colli’r cyfle. Gallwch ddewis o erddi ffrwythau a pherlysiau ar raddfa fach, gerddi peillwyr a threfol, neu erddi bywyd gwyllt a thyfu bwyd ar raddfa fwy.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae mwy o bobl nag erioed wedi dod i werthfawrogi gwerth natur ar eu stepen drws. Ond mae angen gweithredu ar frys i wrthdroi ei ddirywiad. Dyma pam yr ydym yn llawn cyffro wrth ailagor ceisiadau ar gyfer Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Diolch i gymorth parhaus Llywodraeth Cymru a’n partneriaid, bydd cannoedd o erddi newydd yn cael eu datblygu ar draws y wlad dros y misoedd nesaf. Louise TambiniDirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Louise TambiniDirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Mae’r fenter yn rhan o gronfa ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur ‘ar eich stepen drws’.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:
Mae’r pandemig wedi gwneud i ni gyd werthfawrogi natur yn well a sylweddoli ei fod yn hanfodol i’n hiechyd, yr economi a’n lles ehangach. Bydd yr amgylchedd yn greiddiol i broses gwneud penderfyniadau ein llywodraeth newydd, felly rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu parhau i gefnogi ein cymunedau i wneud eu rhan i helpu planhigion, adar a pheillwyr ar hyd a lled Cymru. Rwyf yn eich annog i ddod ynghyd i fanteisio ar y cyllid hwn er mwyn rhoi help llaw i natur. Julie JamesY Gweinidog Newid Hinsawdd
Julie JamesY Gweinidog Newid Hinsawdd
Mae cannoedd o becynnau gardd am ddim ar gael. Gwneud cais nawr! Ewch i’n tudalen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
12/01/2023
27/10/2022
27/09/2022
05/05/2022