Mae Canolfan Parc Cenedlaethol Bluestone yn Sir Benfro wedi cael gwobr ryngwladol Goriad Gwyrdd i gydnabod ei safonau amgylcheddol rhagorol.
Gyda gwobrau wedi eu dyfarnu i sefydliadau mewn 65 o wledydd, Goriad Gwyrdd yw’r eco-label sydd yn tyfu gyflymaf i’r diwydiant twristiaeth. Yng Nghymru, gweithredir Goriad Gwyrdd gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, sydd hefyd yn rheoli rhaglen eiconig y Faner Las. Mae Bluestone wedi ymuno â grŵp craidd o arweinwyr y diwydiant lletygarwch yng Nghymru sydd wedi cael achrediad Goriad Gwyrdd, gyda’r wobr yn amlwg yn dangos eu hymrwymiad parhaus i’r safonau amgylcheddol uchel sydd yn cael eu gweithredu ar draws eu busnes.
Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael gwobr eco flaenllaw Goriad Gwyrdd. Mae ein tîm wedi gweithio’n galed i gyflawni hyn ac felly rydym mor falch o gael yr achrediad. Yn Bluestone, rydym yn cymryd cynaliadwyedd – a diogelu a chefnogi ein hamgylcheddol – o ddifrif. Dyfodol Rhydd i Grwydro yw ein mudiad cynaliadwyedd. Rydym yn diolch i Goriad Gwyrdd, ein gwesteion a’n timau am eu hymdrechion rhagorol a’u cefnogaeth gwych wrth i ni gyd weithio tuag at Ddyfodol mwy cynaliadwy a Rhydd i Grwydro. Marten LewisPennaeth Cyfrifoldeb Corfforaethol yng Nghanolfan Parc Cenedlaethol Bluestone
Marten LewisPennaeth Cyfrifoldeb Corfforaethol yng Nghanolfan Parc Cenedlaethol Bluestone
Mae Bluestone wedi ymrwymo i gynaliadwyedd ers i’r ganolfan agor gyntaf yn 2008, ond gwnaeth welliannau neilltuol ar daws y safle dros y flwyddyn ddiwethaf i fodloni safonau Goriad Gwyrdd. Mae’r rhain wedi cynnwys rhaglen ymgysylltu staff, haneru’r gwastraff cyffredinol sydd yn cael ei gynhyrchu a defnyddio cyfleuster treulio anaerobig i droi’r holl wastraff bwyd yn fiodanwydd a gwrtaith. Mae Bluestone hefyd yn buddsoddi mewn isadeiledd newydd i fwy na haneru’r defnydd o ddŵr o gawodydd a thapiau.
Mae’n rhagorol gweld un o brif ganolfannau gwyliau Cymru yn gweithredu i ddiogelu a gwella ein hamgylchedd. Hoffem longyfarch tîm Bluestone ar eu llwyddiant a’u croesawu i deulu Goriad Gwyrdd. Ar ôl cyfnod anodd i’r diwydiant twristiaeth, mae Goriad Gwyrdd yn gyfle i roi Cymru ar y map fel cyrchfan cynaliadwy yn yr 21ain ganrif. Trwy ddewis ymweld â sefydliad Goriad Gwyrdd, gallwn eich sicrhau eich bod yn ymweld â rhywle sydd â’r safonau amgylcheddol uchaf posibl. Lesley JonesPrif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Lesley JonesPrif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Rhagor o wybodaeth am ‘Goriad Gwyrdd
12/05/2023
20/04/2023
18/01/2023
22/11/2022