A A A

Coedwigoedd ysgol newydd yn creu cenhedlaeth o ‘warcheidwaid coed’

Rydym yn plannu 22 o goedwigoedd ysgol fel rhan o uchelgais Coedwig Genedlaethol Cymru.

Mae 400 o goed cynhenid yn cael eu plannu ar safle pob Eco-Ysgol, gan greu coedwrych, perthlys neu goetir bach ym mhob awdurdod lleol.  Er nad yw wedi bod yn bosibl cynnwys disgyblion yn y gwaith plannu, pan fydd y cyfyngiadau yn caniatáu, bydd ganddynt gyfle i dorchi llewys a gofalu ar ôl y coed wrth iddynt dyfu a ffynnu.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cynorthwyo Cadwch Gymru’n Daclus gyda’u gwaith plannu mewn prosiectau Eco-Sgolion ar draws Cymru, trwy ein cynlluniau ar gyfer y Goedwig Genedlaethol. Wrth i ni geisio gwneud Cymru yn genedl wyrddach a thecach, gan barhau â’n nod o fod yn genedl carbon sero-net erbyn 2050, mae’n hanfodol bod plant yn cael y cyfle i ddysgu am bwysigrwydd coed a choetir, a’u heffaith fuddiol hollbwysig ar ein hamgylchedd. Er bod y cyfyngiadau oherwydd pandemig Covid-19 wedi golygu nad yw disgyblion wedi gallu cymryd rhan yn y gwaith plannu, rwy’n siŵr y byddant yn manteisio ar bob cyfle i ofalu ar ôl eu coetir newydd, a hoffwn ddiolch i Cadwch Gymru’n Daclus am eu gwaith yn plannu’r coed a’r coedwrych hyn.

Lesley Griffiths
Y Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Mae pecyn i athrawon wedi cael ei greu fel rhan o’r prosiect, yn llawn gweithgareddau ar gyfer yr ystafell ddosbarth ac ar gyfer dysgu gartref, wedi eu dylunio i helpu pobl ifanc i ddeall gwerth coed (gweler isod).  Mae’r adnoddau ar gael i bob ysgol yn rhad ac am ddim ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus.

Rydym yn falch o gefnogi datblygiad Coedwig Genedlaethol Cymru gyda’r prosiect Eco-Sgolion cyffrous hwn. Rydym eisiau sicrhau bod pobl ifanc yn cydnabod pa mor wych yw coed a pha mor hanfodol ydynt i’n hamgylchedd. Trwy gynnwys myfyrwyr wrth ofalu am y coedwigoedd newydd hyn a darparu adnoddau yn rhad ac am ddim i bob ysgol, ein gobaith yw creu cenhedlaeth o ‘warcheidwaid coed’ sydd wedi ymrwymo i ofalu am goed a mannau gwyrdd a’u diogelu.

Lesley Jones
Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Mae’r 22 o goedwigoedd newydd wedi eu lleoli yn / gerllaw yr ysgolion canlynol:

  • Ysgol Gymuned Bryngwran, Ynys Môn
  • Ysgol Gynradd Sofrydd, Blaenau Gwent
  • Coleg Cymunedol Y Dderwen / Ysgol Gynradd Brynmenyn, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ysgol Lewis i Ferched, Caerffili
  • Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog, Caerdydd
  • Ysgol Gyfyn Emlyn, Sir Gaerfyrddin
  • Ysgol Bro Pedr, Ceredigion
  • Ysgol Swn Y Don, Conwy
  • Ysgol Gatholig Crist y Gair, Sir Ddinbych
  • Ysgol Maes y Felin, Sir y Fflint
  • Ysgol Glan Y Mor, Gwynedd
  • Ysgol Gynradd Gymunedol Coed-y-dderwen, Merthyr Tudful
  • Ysgol Gynradd Rogiet, Sir Fynwy
  • Ysgol Bae Baglan, Castell-nedd Port Talbot
  • Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, Casnewydd
  • Ysgol Bro Gwaun, Sir Benfro
  • Ysgol Calon Cymru, Powys
  • Ysgol Gynradd Meisgyn, Rhondda Cynon Taf
  • Ysgol Bishop Vaughn, Abertawe
  • Ysgol Gynradd Pontnewydd, Torfaen
  • Ysgol Gynradd Colcot, Bro Morgannwg
  • Ysgol Rhosnesni, Wrecsam

Erthyglau cysylltiedig

Disgyblion a’r Senedd: Uwchgynhadledd Eco’r Senedd yn tanio trafodaethau amgylcheddol difyr

11/07/2023

Darllen mwy
Taith allyriadau isel Eco-Sgolion Cymru i Foroco

06/03/2023

Darllen mwy
Rydyn ni’n galw ar bob ysgol i gael siop gyfnewid gwisg ysgol

24/11/2022

Darllen mwy
Galwadau am weithredu ar yr hinsawdd wrth i ras gyfnewid arloesol deithio drwy Gymru

01/11/2022

Darllen mwy