Fe wnaethom ni noddi gwobr ‘Manwerthwr y Flwyddyn’ yn y Gwobrau Amgylcheddol Cenedlaethol.
Coronwyd Liz a Laura, perchnogion Sero Zero Waste yng Nghasnewydd, yn enillwyr ‘Manwerthwr y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Amgylcheddol Cenedlaethol 2022 am arwain y ffordd yn lleihau gwastraff plastig. Enillodd y ddwy y ‘Wobr Entrepreneur Amgylcheddol’ hefyd.
Mae Sero Zero Waste yn gwerthu bwydydd cyflawn sych, y gellir eu hail-lenwi, cynnyrch lleol a chynnyrch cynaliadwy eraill yn eu siop yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd. Mae’r siop dim gwastraff yn helpu cymuned Casnewydd i leihau eu gwastraff plastig trwy ail-lenwi cynwysyddion.
Ers agor eu drysau y llynedd, maent wedi ail-lenwi dros 17,000 o gynwysyddion fyddai, fel arall, wedi cael eu taflu ar ôl un defnydd. Mae’r siop gynaliadwy yn addysgu pobl i newid o ddeunydd untro ac yn gweld newid ymddygiad cadarnhaol ar lefel leol.
Mae’n anrhydedd enfawr ennill gwobr am rywbeth fel Manwerthwr y Flwyddyn. Pan wnaethom ddechrau creu Sero Zero Waste, fe wnaethom ganolbwyntio ar yr hyn y gallem ei wneud i wasanaethu’r gymuned leol a chreu gofod lle gallent wneud newidiadau i’w defnydd o blastig yn hawdd. Mae popeth yr ydym yn ei wneud yn ymwneud â gwneud byw’n ddi-blastig yn fwy cyfleus ac yn ddewis haws i bawb, felly mae’n deimlad gwych cael ein gwobrwyo am wneud hynny. O ddifrif, os ydych eisiau adfer eich ffydd mewn dynoliaeth… agorwch siop dim gwastraff! Bydd gweld pobl yn dewis gwneud newidiadau bach bob dydd sydd yn arwain at y math yma o effaith yn gwneud hynny. Laura ParryCyd-berchennog Sero Zero Waste
Laura ParryCyd-berchennog Sero Zero Waste
Roedd yn rhagorol mynychu’r Gwobrau Amgylcheddol Cenedlaethol a chael gwybod am yr holl enillwyr haeddiannol, yn cynnwys Codwyr Sbwriel Llangatwg yn ennill y wobr ‘Grŵp Cymunedol Amgylcheddol’. Enillwyr y categori a noddwyd gennym ni, sef ‘Manwerthwr y Flwyddyn’, Sero Zero Waste, yw’r siop dim gwastraff gyntaf yng Nghasnewydd sydd yn helpu’r gymuned i leihau eu gwastraff plastig. Rydym yn llawn cyffro i fod yn gweithio gyda nhw i hyrwyddo eu busnes fel arfer gorau yn lleihau plastig ac yn annog sefydliadau eraill i roi cynlluniau ar waith i ystyried effaith defnyddwyr ar yr amgylchedd. Louise TambiniDirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Louise TambiniDirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Rydym yn galw ar fusnesau a sefydliadau i addo ymrwymo i’r pedair elfen: lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu ac atgyweirio trwy ein mudiad, Caru Cymru. Rydym eisiau datblygu rhwydwaith o fusnesau ar draws Cymru sydd wedi ymrwymo i leihau gwastraff a dathlu’r camau cadarnhaol y maent yn eu cymryd.
O enillion cyflym i newidiadau tymor hwy, mae addo ymrwymo i’r pedair elfen yn syml – rhowch wybod i ni pa gamau y mae eich busnes yn eu cymryd trwy lenwi ffurflen addewid ar-lein.
Gyda syniadau i’ch rhoi ar ben y ffordd a chynlluniau gweithredu ac adolygiad y gellir ei lawrlwytho, rydym wedi ei wneud mor hawdd â phosibl i ymrwymo i weithredu a bod yn rhan o’r ateb.
02/04/2025
19/02/2025
24/01/2025
18/10/2024