A A A

Creu straeon, nid sbwriel

Rydyn yn galw ar bawb i gymryd cyfrifoldeb am eu sbwriel eu hunain wrth wneud y gorau o barciau, traethau a mannau prydferth Cymru dros yr haf.

Ledled Cymru, mae mwy o sbwriel i’w weld wrth i gyfyngiadau Covid lacio ac wrth i’r tywydd wella. Mae ymddygiad lleiafrif bach wedi cael effaith negyddol ar fwynhad pawb o fyd natur. Maen nhw hefyd wedi rhoi rhagor o straen ar weithwyr cyngor sydd wedi bod yn gweithio’n ddiflino drwy gyfnod y pandemig er mwyn cadw mannau agored yn lân ac yn ddiogel a chynnal gwasanaethau hanfodol eraill.

Rydym wedi ymuno a phob awdurdod lleol ledled Cymru er mwyn annog pobl i wneud y peth iawn wrth wneud y gorau o’r gwyliau haf. Er mwyn atal biniau rhag llenwi a gorlifo, rydyn ni’n galw ar bawb i fynd â’u sbwriel adref a chael gwared arno yno.

Mae’r ymgyrch yn cael ei chynnal fel rhan o Caru Cymru, mudiad cynhwysol sy’n cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol er mwyn ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.

Mae sbwriel yn cael effaith sylweddol a phellgyrhaeddol ar ein cymunedau. Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi dangos bod ardaloedd sy’n cael eu hesgeuluso yn gwneud i bobl deimlo’n llai diogel, yn effeithio ar gydlyniant cymdeithasol a balchder pobl yn eu cymunedau, ac yn mygu twf economaidd a thwristiaeth.

Rydyn ni i gyd wedi gweld eisiau ein hoff lefydd ac mae’n hanfodol bod ein parciau, ein llefydd gwyrdd a’n traethau yn cael eu cadw’n lân ac yn ddiogel i bawb eu mwynhau. Mae gan bawb ran i’w chwarae. Mae’n annerbyniol disgwyl i rywun arall godi eich sbwriel chi. Pan fyddwch chi allan, cofiwch greu straeon, nid sbwriel – os yw’r biniau’n llawn, ewch â’ch sbwriel adref.

Lesley Jones
Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Ymunwch â ni

Gallwch gymryd rhan yn ein hymgyrch trwy fynd i Becyn Cymorth yr Ymgyrch Caru Cymru – siop un stop lle gallwch lawrlwytho ac addasu posteri, sticeri, graffeg cyfryngau cymdeithasol a mwy!

Mynd i’r pecyn cymorth

Erthyglau cysylltiedig

Cyflwyno Bin Môr Abertawe

19/02/2025

Darllen mwy
Cadwch Gymru’n Daclus yn dileu sbwriel cas!

24/01/2025

Darllen mwy
Angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng sbwriel cynyddol

18/10/2024

Darllen mwy
Oedi i’r cynllun dychwelyd ernes: ein hymateb

29/04/2024

Darllen mwy