Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr gwirfoddolwr, gwirfoddolwr ifanc a chyflogai y flwyddyn 2020 y Faner Werdd. Roedd y gwobrau yn gyfle i ddathlu a diolch i wirfoddolwyr a staff sydd wedi dangos ymrwymiad eithriadol, gan ofalu am ein parciau a’n mannau gwyrdd mewn amgylchiadau heriol iawn.
Mae Paul Abraham wedi cael ei enwi fel Gwirfoddolwr y Flwyddyn y Faner Werdd ar gyfer Cymru am ei ymrwymiad i Fferm Gymunedol Abertawe.
Boed law neu hindda, mae Paul ar y Fferm bob dydd Iau. Mae’n angerddol am gadwraeth ac mae’n rhoi ei wybodaeth sylweddol am fywyd gwyllt at ddefnydd da gan ofalu ar ôl y tir – o osod gwrychoedd a chlirio llwybrau, i greu cynefinoedd a gofal am byllau’r Fferm. Mae hefyd yn defnyddio ei brofiad ei hun i fentora gwyrfoddolwyr iau a chynorthwyo pobl â phroblemau iechyd meddwl.
Rwy’n teimlo’n dda wrth roi rhywbeth yn ôl. Mae’n braf gweithio gyda phob math o bobl o bob cefndir. Ac os wyf yn gallu helpu rhywun i wella eu hyder neu eu hyfforddi i wneud sgil newydd heb fod yn feirniadol, rwy’n credu bod hynny’n beth da ac mae’n gwneud i mi deimlo’n dda. Rwy’n teimlo balchder ond yn annheilwng. Rwy’n falch dros y Fferm hefyd. Mae’r Fferm wedi fy helpu yn fawr, felly mae gallu rhoi rhywbeth yn ôl, a chyflawni ar gyfer y Fferm, yn rhagorol. Paul Abraham
Paul Abraham
Cyflwynwyd gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn Cymru i Emily-Jayne Wilkins, sydd yn 16 oed. Mae Emily wedi bod yn gysylltiedig â Pharc Eco Cefn Fforest yng Nghaerffili ers bron deunaw mis yn dilyn marwolaeth drasig un o’i ffrindiau gorau. Ar ôl codi arian i gofio am Cole, trefnodd Emily bod coeden a mil o flodau saffrwm yn cael eu plannu yn y Parc.
Daeth Emily yn aelod o bwyllgor Cyfeillion y Parc Eco ar ddechrau 2020. Ers hynny, mae wedi bod yn flaenllaw yn trawsnewid Cefn Fforest, gan helpu’r parc i gael statws y Faner Werdd am y tro cyntaf ym mis Hydref. Yn ogystal ag adeiladu gardd pili palod gyda’u hysgol, mae Emily wedi cadw’r ardal gyfan yn lân ac yn ddiogel i’r gymuned leol ei mwynhau yn ystod y pandemig.
Cefais sioc fy mod wedi ennill ond doedd gen i ddim syniad fy mod wedi cael fy nghyflwyno ar gyfer y wobr. Rwy’n ddiolchgar iawn i Bwyllgor y Parc Eco a hoffwn ddiolch iddynt am gyflwyno fy enw. Emily-Jayne Wilkins
Emily-Jayne Wilkins
Cafodd Brent Bennett ei enwi fel Cyflogwr y Flwyddyn y Faner Werdd yng Nghymru am fynd y tu hwnt i ofynion ei swydd fel Rheolwr Gweithredoedd a Hyfforddiant yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, wedi ei leoli ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd.
Pan darodd Storm Dennis fis Chwefror diwethaf, gan achosi niwed dinistriol i’r parc a’r lido, Brent oedd un o’r bobl gyntaf i gyrraedd yno. Roedd yn hanfodol yn yr ymgyrch glanhau ac mae wedi helpu i adfer yr atyniad dŵr a’r parc antur i’w ysblander blaenorol.
Rwyf wrth fy modd ac yn teimlo’n annheilwng o’r wobr hon i gydnabod gwaith caled y tîm cyfan ym Mharc Coffa Ynysangharad a Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, ar ôl y dinistr ofnadwy a achoswyd gan Storm Dennis. Hoffwn ddiolch i Reolwr dyletswydd ardal y Cyngor, Dean Morgan-Jones, ein Tîm o Geidwaid, y rheolwr ardaloedd chwarae, Adam Kettley a’i dîm am yr holl waith caled a wnaed yn creu teimlad o normalrwydd yn y mannau arbennig hyn. Mae wedi bod yn frwydr hir a chaled, ond mae ffrwyth ein llafur wedi cael ei wireddu o’r diwedd. Brent Bennett
Brent Bennett
Yn sôn am y gwobrau, dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd:
Mae’r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel i’n cymunedau. I lawer ohonom, maent wedi bod yn hafan ar ein stepen drws, o fudd i’n hiechyd a’n llesiant. Rydym ond yn gallu mwynhau’r safleoedd rhagorol hyn oherwydd ymroddiad staff a gwirfoddolwyr fel Paul, Emily a Brent. Diolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed dros y flwyddyn ddiwethaf a llongyfarchiadau i enillwyr 2020. Lucy PriskCydlynydd y Faner Werdd
Lucy PriskCydlynydd y Faner Werdd
Cyflwynir cynllun Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan Cadwch Gymru’n Daclus gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Derbyniodd 224 o barciau a mannau gwyrdd Wobr y Faner Werdd a Gwobr Gymnunedol y Faner Werdd yn 2020.
Gallwch roi eich parc neu fan gwyrdd ar y map trwy gymryd rhan hefyd. Ewch i dudalennau Gwobr y Faner Werdd am fwy o wybodaeth.
Arwyr y Faner Werdd eleni:
19/04/2024
29/02/2024
03/08/2023
12/06/2023