A A A

Cyfansoddiad Ardoll Ymwelwyr: byddwch yn rhan o’r sgwrs

Mae ein gwlad yn un wirioneddol anhygoel. Gydag amgylcheddau naturiol a hanesyddol trawiadol, nid yw’n syndod bod twristiaeth yn chwarae rhan mor fawr yn economi Cymru, gan greu £6.2 biliwn mewn gwariant ymwelwyr bob blwyddyn.

Ond daw heriau gyda hyn. Ma angen parhaus i ddiogelu’r mannau arbennig hyn rhag effeithiau dynol er mwyn sicrhau bod pobl eisiau dychwelyd dro ar ôl tro.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi lansio ymgynghoriad ar gynlluniau i gyflwyno Ardoll Ymwelwyr er mwyn cynnal ac adfer cyrchfannau twristiaid.

Rydym yn sylweddoli bod hwn yn bwnc llosg ac rydym eisiau sicrhau bod y grwpiau cymunedol, y busnesau a’r sefydliadau yr ydym yn gweithio gyda nhw yn rhan o’r sgwrs.

Beth yw Ardoll Ymwelwyr?

Treth leol newydd a gaiff ei dylunio mewn ffordd sy’n gweithio i gymunedau lleol, busnesau ac ymwelwyr â Chymru fyddai ardoll ymwelwyr (Llywodraeth Cymru, Medi 2022).

Mae ardollau ymwelwyr yn gyffredin mewn cyrchfannau twristiaid ar draws y byd, er bod y dulliau a’r costau’n amrywio rhwng ardaloedd a gwledydd.

Mae tystiolaeth o gyrchfannau eraill gydag ardollau ymwelwyr yn awgrymu mai’r ffordd orau o wneud hyn yw trwy ddulliau tryloyw iawn lle mae cyllid yn cael ei neilltuo’n glir ar gyfer cadwraeth natur ac at ddibenion adfer.

Safle Cadwch Gymru’n Daclus

O’n hymchwil helaeth ni i sbwriel twristiaeth, gwyddom fod effeithiau pellgyrhaeddol i amgylchedd nad yw’n cael ei reoli’n dda a gall effeithio’r ffordd y mae ymwelwyr yn teimlo am le, ein heconomïau lleol, yn ogystal â’n cymunedau preswyl a’n bywyd gwyllt.

Mae angen i ni ganfod ffyrdd o fuddsoddi mewn natur a’n cymunedau er mwyn i Gymru allu parhau i fod yn gyrchfan hardd y mae ymwelwyr eisiau dychwelyd iddi dro ar ôl tro. Ar hyn o bryd, mae ein cynghorau lleol ac Awdurdodau ein Parciau Cenedlaethol, gyda chefnogaeth cannoedd lawer o wirfoddolwyr, yn cael anhawster yn ymdopi gyda gofynion ychwanegol mewnlifiad anrhagweladwy yn aml o ymwelwyr, yn arbennig o ran taflu sbwriel, rheoli gwastraff a chyfleusterau cyhoeddus.

Rydym o’r farn y gallai Ardoll Ymwelwyr gael ei dylunio fel ei bod yn cynorthwyo’r bwlch yma mewn adnoddau, yn helpu i leddfu’r pwysau mewn mannau lle mae llawer o dwristiaid a rhoi cyfle i ymwelwyr chwarae eu rhan yn gofalu am ein hamgylchedd gwerthfawr.

Yn seiliedig ar lwyddiant mentrau tebyg ar draws y byd, ein cred yw y gallai ardoll ymwelwyr yng Nghymru leddfu’r straen ar gymunedau lleol trwy sicrhau bod ymwelwyr yn chwarae eu rhan yn gofalu am ein hamgylchedd gwerthfawr.

Byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad llawn ar sbwriel twristiaeth dros yr wythnosau i ddod. Yn y cyfamser, gallwch lawrlwytho ein crynodeb i gael cipolwg ar y mater.

Dweud eich dweud

Dros yr wythnosau i ddod, byddwn yn annog y grwpiau, y busnesau a’r sefydliadau yr ydym yn gweithio gyda nhw i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Rydym eisiau i leisiau pawb gael eu clywed.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 13 Rhagfyr 2022. Gallwch gyflwyno eich sylwadau ar-lein, ar ebost neu drwy’r post. Mae cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori’n cael eu cynnal ar draws y wlad hefyd. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael yr holl fanylion.

Ewch i wefan Llywodraeth Cymru

#ArdollYmwelwyr

Erthyglau cysylltiedig

Cadwch Gymru’n Daclus yn dileu sbwriel cas!

24/01/2025

Darllen mwy
Angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng sbwriel cynyddol

18/10/2024

Darllen mwy
Oedi i’r cynllun dychwelyd ernes: ein hymateb

29/04/2024

Darllen mwy
Angen Cynllun Dychwelyd Ernes nawr yn fwy nag erioed

12/03/2024

Darllen mwy