Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi derbyn cymorth cychwynnol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer datblygu Prosiect y Goedwig Hir Drefol.
Gwnaed hyn yn bosibl gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a nod y prosiect yw diogelu ac adfer coedwrych yng Nghaerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam.
Mae coedwrych yn rhan hanfodol o dirwedd Cymru, yn cefnogi amrywiaeth enfawr o rywogaethau ac yn gweithredu fel coridorau i fywyd gwyllt trwy gysylltu pocedi o fannau gwyrdd gwerthfawr. Yn anffodus, mae coedwrych ar draws y wlad mewn perygl o gael eu rheoli’n amhriodol, eu dinistrio a’u hesgeuluso, yn enwedig mewn ardaloedd adeiledig.
Rydym wedi bod yn gwarchod coedwrych mewn ardaloedd gwledig ers bron i ddeng mlynedd trwy fenter ‘Y Goedwig Hir’. Nawr, trwy ddatblygu Prosiect y Goedwig Hir Drefol, ein gobaith yw codi ymwybyddiaeth a chynnwys cymunedau trefol er mwyn gofalu ar ôl coedwrych a choed hynafol.
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Choed Cadw, Addysg Oedolion Cymru, Llais y Goedwig ac awdurdodau lleol i gynllunio amrywiaeth o weithgareddau addysg, hyfforddiant a gweithgareddau ymarferol.
Rydym wedi cael £172,000 o gyllid datblygu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i’n helpu i ddatblygu ein cynlluniau i wneud cais am grant llawn y Loteri Genedlaethol yn nes ymlaen.
Gan roi sylw ar y dyfarniad, dywedodd Louise Tambini, Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:
Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn y cymorth hwn diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae coedwrych mewn ardaloedd trefol wedi cael eu hesgeuluso a heb gael eu gwerthfawrogi ddigon am gyfnod rhy hir. Wrth wynebu argyfyngau hinsawdd a natur, ni all hyn barhau. Mae’r Goedwig Hir Drefol yn gyfle i ni newid agweddau a dechrau defnyddio grym anhygoel coedwrych a choed hynafol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid a chymunedau yng Nghaerdydd, Caerffili, Castell-nedd Port Talbot a Wrecsam i ddatblygu’r prosiect. Louise TambiniDirprwy Brif Weithredwr
Louise TambiniDirprwy Brif Weithredwr
Gallech gymryd yr awenau gyda’r prosiect newydd, cyffrous hwn!
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Prosiect i’n helpu i ddatblygu Prosiect y Goedwig Hir Drefol.
Rydym yn chwilio am rywun sydd wedi ymrwymo i ddatblygu cynaliadwy, diogelu’r amgylchedd, ac sy’n gallu dangos profiad amlwg yn y maes hwn. Dylech fod yn gallu dangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda o gadwraeth, bioamrywiaeth, gweithgareddau natur (yn cynnwys plannu coed), a meddu ar brofiad o weithio yn y sector amgylcheddol a neu elusennol.
Cliciwch ar y ddolen i gael y manylion i gyd. Y dyddiad cau yw 11 Mawrth.
> Apply now
19/04/2024
03/08/2023
12/06/2023
12/01/2023