A A A

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Arfordir Cymru 2024!

Heddiw cafodd enillwyr Gwobrau Arfordir Cymru 2024 eu cyhoeddi, gan dynnu sylw at y 49 o safleoedd arfordirol sy’n cyflawni’r safonau uchaf sydd eu hangen i dderbyn Gwobr flaenllaw y Faner Las, Afordir Glas neu Wobr Glan Môr.

Gyda mwy a mwy o awdurdodau lleol a sefydliadau yn wynebu pwysau ar gyllidebau, mae’n galongol gweld cymaint yn parhau i roi blaenoriaeth i gyflawni’r safonau eithriadol sydd eu hangen i gyflawni’r gwobrau hyn yn yr ardaloedd arfordirol trawiadol sydd yn amgylchynu ein gwlad hardd.

Rheolir y Faner Las yn rhyngwladol gan FEE (y Sefydliad Addysg Amgylcheddol) ac mae’n un o’r gwobrau mwyaf blaenllaw yn y byd ar gyfer traethau, marinas a chychod. Cenhadaeth y rhaglen yw hyrwyddo addysg amgylcheddol, datblygu twristiaeth yn gynaliadwy, systemau rheoli amgylcheddol a sicrhau diogelwch a mynediad i ddefnyddwyr traethau.

Mae’n rhaid i’r 24 o draethau yng Nghymru sy’n cyflawni’r anrhydedd hwn gadw at feini prawf penodol yn ymwneud nid yn unig ag ansawdd dŵr, ond hefyd darparu gwybodaeth, addysg amgylcheddol, diogelwch, a rheoli safleoedd, mewn ffordd gyfartal.

Ynghyd â 24 gwobr y Faner Las, cafodd 13 o draethau yng Nghymru y Wobr Arfordir Glas sy’n cydnabod eu hamgylchedd glân, ansawdd dŵr rhagorol a’u harddwch naturiol. Mae Gwobrau Arfordir Glas yn ‘drysorau cudd’ ar hyd arfordir Cymru, lleoedd eithriadol i ymweld â nhw i fwynhau amrywiaeth ac etifeddiaeth arfordirol gyfoethog.

Yn ogystal, cafodd cyfanswm o 12 traeth, yn cynnwys Aberporth a Rhyl Canolog, y Wobr Glan Môr am safon eu cyfleusterau ac ansawdd y dŵr.

Mae’r diolch am y gydnabyddiaeth barhaus yma o’n harfordir trawiadol yng Nghymru unwaith eto i ymdrech aruthrol y staff a’r gwirfoddolwyr mewn safleoedd ledled Cymru, ac ysgogiad a rennir i ddiogelu a gwarchod ein tirwedd naturiol tra’n wynebu amgylchiadau cynyddol heriol.

Mae gan Gymru rai o draethau ac ansawdd dŵr gorau Ewrop, ac mae’r gydnabyddiaeth fyd-eang o’n harfordir yn adlewyrchiad gwirioneddol o ymroddiad a gwaith caled cymaint o bobl, heddiw rydym yn dathlu cyhoeddi 49 o enillwyr ar gyfer Gwobrau Arfordir Cymru 2024. Gyda 24 gwobr y Faner Las, 13 Gwobr Arfordir Glas, a 12 Gwobr Glan Môr, rwy’n canmol yr ymrwymiad i warchod ein hamgylcheddau arfordirol ardderchog. Wrth i ni ddathlu’r cyflawniad hwn, dewch i ni hefyd ateb yr alwad i ddiogelu a gwarchod ein trysorau arfordirol. Dewch i ni sicrhau ein bod yn gadael dim byd ond olion traed, gan alluogi’r mannau trawiadol hyn i gael eu mwynhau am genedlaethau i ddod.

Huw Irranca-Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig

Rydym wrth ein bodd i weld blwyddyn arall lwyddiannus o Wobrau Arfordir yma yng Nghymru, gyda 49 o leoliadau trawiadol yn cael eu cydnabod gyda’r gorau yn y byd. Mae cyflawni’r gwobrau blaenllaw hyn yn golygu bodloni safonau llym sydd wedi eu sefydlu i sicrhau mwynhad diogel ymwelwyr nawr ac am flynyddoedd i ddod. Mae’r llwyddiant yma yn dangos gwaith caled pawb sydd yn gysylltiedig yn cynnal a gwella harddwch naturol arfordir Cymru.

Owen Derbyshire
Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Gwobrau Arfordir Cymru

Mae map o safleoedd Baner Las Cymru yma

Gwobrau Arfordir Cymru 2024

Erthyglau cysylltiedig

Dathlu enillwyr Gwobrau Cymru Daclus 2024

17/09/2024

Darllen mwy
12 safle treftadaeth Cymru yn cael statws dwbl y Faner Werdd

10/09/2024

Darllen mwy
Cymru yn chwifio mwy o Faneri Gwyrdd Cymunedol nag unrhyw wlad arall ar draws y byd

16/07/2024

Darllen mwy
Mae Loteri Cymru Hardd wedi cyrraedd!

11/07/2024

Darllen mwy