Yn ogystal â dyfarnu safleoedd y Faner Las, mae’r Faner Las Ryngwladol yn cynnal cystadleuaeth arfer gorau flynyddol ac mae’r cyflwyniadau’n cael eu beirniadu gan y rheithgor rhyngwladol. Themâu cystadleuaeth 2021 oedd Newid yn yr Hinsawdd, Bioamrywiaeth a Llygredd a chafodd y rheithgor eu plesio gan y Prosiect Seagrass yn Dale, Sir Benfro am eu gweithgareddau yn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Nod Prosiect Seagrass yw adfer dolydd o forwellt yng Nghymru sydd â buddion sylweddol, fel gwella hidlo dŵr a chipio carbon 30 gwaith yn gyflymach na choedwigoedd.
Mae Prosiect Seagrass wrth eu bodd eu bod wedi ennill y categori Newid Hinsawdd yng Nghystadleuaeth Arfer Gorau'r Faner Las ac i'n gwaith gael ei gydnabod fel hyn. Yn ystod Degawd Adferiad Ecosystem y Cenhedloedd Unedig, rydym yn canolbwyntio nid yn unig ar adfer dolydd morwellt ond hefyd ar adfywio'r bywyd gwyllt morol sy'n dibynnu arnyn nhw. Mae datrysiadau natur fel hyn yn gwella amrywiaeth bywyd yn ein cefnforoedd gan arwain at ecosystem cefnfor iachach a mwy gwydn. Mae'r Faner Las yn gwneud gwaith gwych i ddod â newid cadarnhaol i'n harfordiroedd ac rydym yn falch iawn eu bod wedi cydnabod ein gwaith i wneud yr un peth. Bethan ThomasSwyddog Cadwraeth Prosiect Seagrass
Bethan ThomasSwyddog Cadwraeth Prosiect Seagrass
Mae’r Faner Las eiconig yn eco-label byd-enwog y mae’r Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE) yn berchen arno. Am fwy na thri degawd, mae’r Faner Las wedi cael effaith drawsnewidiol ar ansawdd dŵr, diogelwch a rheolaeth amgylcheddol. Mae hefyd wedi ysbrydoli ymwybyddiaeth amgylcheddol trwy weithgareddau addysg a hybu cyfrifoldeb cymdeithasol.
Yn ddiweddar, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi lansio mudiad newydd o’r enw Caru Cymru, gyda’r nod o ysbrydoli pawb i weithredu a gofalu am yr amgylchedd. Wrth ymweld â thraethau a marinas adnabyddus Cymru; byddwch yn gyfrifol, ewch â’ch sbwriel adref, gan greu straeon nid sbwriel.
19/04/2024
29/02/2024
03/08/2023
12/06/2023