A A A

Cymru’n gwahardd plastigau untro

Disgwylir Bil yn gwahardd plastigau untro i gael ei gyflwyno gerbron y Senedd heddiw (20 Medi).

Bydd Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynnyrch Plastig Untro) (Cymru) yn ei wneud yn drosedd cyflenwi neu gynnig cyflenwi cynnyrch plastig untro tafladwy diangen sydd yn cael ei daflu fel sbwriel i ddefnyddwyr yng Nghymru.

Ewch i wefan Llywodraeth Cymru am fwy o fanylion.

Cam cadarnhaol

Mae’r pandemig plastig yn gwneud difrod i’n cefnforoedd, ein bywyd gwyllt a’n priddoedd. A dim ond dechrau gweld yr effeithiau ar iechyd dynol yr ydym, gyda microplastigau’n cael eu canfod yn y bwyd yr ydym yn ei fwyta a’r aer yr ydym yn ei anadlu.

Felly, rydym yn croesawu’r ddeddfwriaeth hon ac yn credu ei bod yn gam cadarnhaol ar ein taith i drawsnewid y ffordd yr ydym yn defnyddio plastigau ac yn lleihau gwastraff fel cenedl. Yn dyngedfennol, mae’n darparu’r ffordd i ddiwydiant symud i ffwrdd o arferion llygru.

Gwneud y Bil yn addas i’r dyfodol

Dechreuodd Llywodraeth Cymru gasglu safbwyntiau ar wahardd plastigau untro yn 2020. Ar y pryd, anogodd Cadwch Gymru’n Daclus, ynghyd â sawl sefydliad arall, Llywodraeth Cymru i weithredu ar frys er mwyn osgoi bod ar ei hôl hi yn gweithredu deddfwriaeth effeithiol.

Gwyddom fod natur sbwriel yn newid drwy’r amser. Dim ond edrych ar y cynnydd sylweddol mewn bwyd a diod ‘wrth fynd’ dros y degawd diwethaf sydd angen ei wneud, ac, yn fwy diweddar, y duedd newydd o ddefnyddio e-sigaréts untro.

Ein gobaith yw y bydd y pŵer a roddir i’r Bil yn galluogi Cymru i ymateb i’r bygythiadau sydd yn dod i’r amlwg yn sgil gynnyrch untro eraill ac wrth i dueddiadau defnyddwyr barhau i esblygu.

Byddwn hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i osod terfyn amser neu amserlen ar gyfer y gwaharddiad, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw oedi pellach.

Gweithredu nawr

Rydym yn nodi cyflwyno’r Bil gyda digwyddiad glanhau ym Mae Caerdydd, gan weithio mewn partneriaeth gydag Awdurdod Harbwr Caerdydd a Grŵp Afonydd Caerdydd. Mae gwastraff plastig yn aml yn mynd i fannau fel Bae Caerdydd yn y pen draw, lle mae Awdurdod Harbwr Caerdydd a gwirfoddolwyr yn cynnal digwyddiadau glanhau rheolaidd, gan gasglu tua 500 tunnell o sbwriel bob blwyddyn, llawer ohono’n blastig.

Y digwyddiad yn un o naw sesiwn lanhau y mae Grŵp Afonydd Caerdydd yn eu trefnu ar gyfer Glanhau Moroedd Cymru a lansiwyd yn swyddogol ddydd Gwener 16 Medi. Wedi eich ysbrydoli? Gallwch chi weithredu yn erbyn sbwriel morol hefyd.

Cofrestrwch ddigwyddiad glanhau heddiw

Erthyglau cysylltiedig

Meddyliau ifanc wedi eu grymuso yn cymryd yr awenau mewn cynadleddau cynaliadwyedd

04/07/2024

Darllen mwy
Taith allyriadau isel Eco-Sgolion Cymru i Foroco

06/03/2023

Darllen mwy
Cynllun dychwelyd ernes newydd ar ei ffordd

20/01/2023

Darllen mwy
Ysgolion dros Gymru yn dechrau plannu miloedd o goed

16/01/2023

Darllen mwy