A A A

Cymru Lanach o’n blaenau: Cynllun Dychwelyd Ernes i gael i lansio

Datganiad yn dilyn gosod Rheoliadau’r Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diodydd (Cymru) 2026 gan Lywodraeth Cymru:

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi bod yn galw am gynllun dychwelyd ernes ers bron dau ddegawd, ac rydym yn croesawu’r cadarnhad bod Cymru’n bwriadu symud ymlaen â chynllun sydd yn cadw gwydr ac yn datblygu llwybru clir tuag at ailddefnyddio.

Mae cynlluniau dychwelyd ernes yn ei gwneud hi’n haws i bobl wneud y peth iawn, yn lleihau sbwriel ar ein strydoedd a’n traethau, ac yn cadw deunydd gwerthfawr mewn defnydd am fwy o amser. Mae’n ddull ymarferol, sydd wedi ei brofi all gyflawni buddion gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru.

Fodd bynnag, mae gwaith i’w wneud o hyd wrth i’r rheoliadau symud trwy graffu yn y Senedd tuag at weithredu.  Dyna pam mae’n galonogol gweld cefnogaeth ar draws y pleidiau am gynllun dychwelyd ernes cynhwysfawr, gan adlewyrchu’r consensws eang bod cymunedau glanach yn bwysig.

Gyda 86% o bleidleiswyr yn dweud y dylai sbwriel a thipio anghyfreithlon fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru, mae’n amlwg bod yn rhaid i ni gynyddu’r cynnydd tuag at Gymru daclusach, fwy cynaliadwy.

 

Erthyglau cysylltiedig

Edrych yn fanylach ar sbwriel ar ochr y ffordd

26/02/2026

Darllen mwy
Sbwriel wedi ei ganfod ar 99% o brif ffyrdd yng Nghymru

16/02/2026

Darllen mwy
Pwysigrwydd rhoi baw ci mewn bag ac yn y bin

16/12/2025

Darllen mwy
Gadewch Olion Pawennau yn unig yr hydref hwn

27/10/2025

Darllen mwy