Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad y bydd Cymru’n cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes erbyn 2025.
Cafodd y newyddion ei gadarnhau heddiw (20 Ionawr) gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y fenter newydd yn golygu y byddwn yn talu ernes fach pan fyddwn yn prynu diod mewn cynhwysydd untro, ac yn ei chael yn ôl pan fyddwn yn dychwelyd y botel neu’r can.
Mae Cymru’n gweithio gyda Lloegr a Gogledd Iwerddon i sefydlu cynllun ar y cyd, sy’n golygu y gallwch brynu diod yn y Barri a’i dychwelyd ym Mryste neu Belfast.
Mae’r Alban yn sefydlu ei chynllun ei hun, fydd yn dechrau yn nes ymlaen eleni.
Ar ôl cryn oedi, rydym yn croesawu cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn seiliedig ar lwyddiant mentrau tebyg ar draws y byd, credwn y bydd ychwanegu gwerth i eitemau y gellir eu hailgylchu yn cael effaith sylweddol ar gyfraddau ac ansawdd ailgylchu, yn lleihau sbwriel ac yn gwella ansawdd ein hamgylchedd lleol.
Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Mae enghreifftiau rhyngwladol yn dangos y gall cynlluniau dychwelyd ernes lwyddo i wella ailgylchu – gyda chyfraddau uwchlaw 90% yn Yr Almaen, Y Ffindir a Norwy – a lleihau sbwriel yn gyffredinol.
Y deunyddiau fydd yn cael eu defnyddio yn y cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru fydd cynwysyddion diodydd wedi eu gwneud o blastig polyethylene terephthalate (PET), dur, gwydr ac alwminiwm.
Aeth Owen ymlaen:
“Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynllun cynhwysfawr sydd yn cynnwys gwydr. Mae’n gam pwysig arall tuag at drawsnewid y ffordd yr ydym yn defnyddio adnoddau ac yn lleihau gwastraff fel cenedl.
“Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud y cynllun yn llwyddiant ac i archwilio gweithredu pellach i ddiogelu ein hamgylchedd nawr ac i’r dyfodol.”
Mae’r cyhoeddiad yn dilyn deddfwriaeth ddiweddar i wahardd nifer o blastigau untro.
Parhewch i ddarllen...

Rhoi ffocws: diweddariad gan ein Tîm Polisi ac Ymchwil
Darllen rhagor
Datgelu ymgeiswyr terfynol Gwobrau Cymru Daclus 2026
Darllen rhagor
Ffigurau newydd yn datgelu graddfa sbwriel yr haf ledled Cymru
Darllen rhagor








