Dan 25 oed? Helpwch ni i hyrwyddo Cymru ddi-sbwriel a chael cyfle i ennill taleb siopa di-wastraff gyda ein cystadleuaeth, Tymor Taclus.
Mae ein rhwydwaith cynyddol o ganolfannau codi sbwriel ledled Cymru bellach yn ailagor fel rhan o’n cynllun Caru Cymru. Rydyn ni’n cynnig yr holl offer sydd ei angen i lanhau’n ddiogel, gan gynnwys casglwyr sbwriel, festiau llachar a chylchoedd bagiau sbwriel.
Er mwyn hyrwyddo’r gwaith gwych sy’n digwydd ledled Cymru, gyda llawer o gymunedau’n dod at ei gilydd i lanhau eu hardaloedd bob wythnos. Rydyn ni’n annog pobl iau o dan 25 oed i fynd allan a chymryd rhan mewn gwaith glanhau yn eu hardal leol fis Medi yma.
Mae ein cystadleuaeth Tymor Taclus yn rhedeg o ddechrau mis Medi tan 17 Medi ac mae’n rhoi cyfle i’r rhai ohonoch sy’n cymryd rhan ennill taleb i’w gwario mewn siop foesegol yn eich ardal leol a chael eich coroni fel ein enillydd ar Gyfryngau Cymdeithasol.
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw glanhau eich ardal leol yn ystod mis Medi, dod o hyd i’r eitem ryfeddaf neu’r eitem hynaf ag y gallwch chi (neu’r ddau) a’i phostio ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ar eich sianel chi.
Gall fod yn llun neu’n fideo. Ond os yw’n fideo, bydd angen i chi afael yn yr eitem ar ochr chwith y sgrin a’i throsglwyddo i’r ochr dde gan y byddwn yn golygu ein fideo tacluso gyda’n gilydd ar ddiwedd y mis.
Gall y gwaith glanhau fod yn fawr neu’n fach. Gallwch ddefnyddio yr offer sydd ar gael yn ein canolfannau codi sbwriel neu beidio, ar yr amod eu bod yn codi sbwriel mewn amgylchedd diogel sy’n cael ei reoli.
Byddwch yn ymwybodol, mae’n rhaid i oedolyn priodol fod gyda phobl ifanc o dan 18 oed a’u goruchwylio drwy’r amser.
Cofiwch y bydd angen i chi dagio Cadwch Gymru’n Daclus ar Instagram, Twitter neu Facebook a defnyddio’r hashnodau #CaruCymru a #TymorTaclus, ynghyd â’ch enw, eich hoedran, yr hyn y daethoch o hyd iddo ac yn lle.
Mae Caru Cymru wedi cael cyllid drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost at comms@keepwalestidy.cym. Allwn ni ddim aros i weld beth rydych chi’n dod o hyd iddo.
19/02/2025
24/01/2025
18/10/2024
29/04/2024