A A A

Datganiad y Faner Las: Awst 2022

Rydym wedi derbyn hysbysiad terfynol gan reithgor y Faner Las ryngwladol, er gwaethaf ein sgyrsiau parhaus gyda nhw, na fydd nifer o draethau ar draws Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy yn cael Baner Las ar gyfer tymor ymdrochi 2022.

Mae’r traethau hyn wedi cyflawni’r safonau amgylcheddol uchaf sy’n ofynnol gan y Faner Las. Fodd bynnag, mae’r rheithgor rhyngwladol wedi atgyfnerthu’r penderfyniad, ar draethau lle mae dros 50 o ddefnyddwyr traeth y dydd ar gyfartaledd dros gyfnod o 4 wythnos yn ystod y tymor brig a lle nad oes unrhyw achubwyr bywydau, bod yn rhaid i asesydd annibynnol cydnabyddedig, o Aelod-sefydliad Llawn o’r Ffederaswn Achub Bywydau Rhyngwladol (ILS), gynnal asesiad risg. Felly, ystyrir nad yw asesiad risg diogelwch mewnol gan ymgeisydd y Faner Las yn cydymffurfio â meini prawf y Faner Las.

Yn ystod blynyddoedd blaenorol, cafodd ceisiadau am y Faner Las eu cymeradwyo trwy gyfeirio at asesiadau risg cadarn oedd yn cael eu cynnal gan aseswyr risg mewnol cymwys oedd wedi cael eu hyfforddi. Fodd bynnag, er gwaethaf cyflwyno gwybodaeth ategol ychwanegol, ni chafodd ceisiadau 2022 eu cymeradwyo gan y Rheithgor Rhyngwladol am nad oeddent yn mynd i’r afael â’r gofyniad am asesiad annibynnol yn ddigonol.

Mae’r holl bartïon cysylltiedig yn cydnabod bod cyflawni’r meini prawf hyn yn elfen bwysig o sicrhau bod y safonau rhagoriaeth sydd yn sail i wobr y Faner Las ar gyfer dros 5,000 o draethau’r Faner Las ar draws y byd yn cael eu cynnal. Bydd sgyrsiau’n parhau i amlinellu, mewn ffordd llawn ac amserol, holl ofynion y Faner Las yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod traethau yng Ngogledd Orllewin Cymru’n bodloni’r meini prawf hyn.

Erthyglau cysylltiedig

Dathlu enillwyr Gwobrau Cymru Daclus 2024

17/09/2024

Darllen mwy
12 safle treftadaeth Cymru yn cael statws dwbl y Faner Werdd

10/09/2024

Darllen mwy
Cymru yn chwifio mwy o Faneri Gwyrdd Cymunedol nag unrhyw wlad arall ar draws y byd

16/07/2024

Darllen mwy
Mae Loteri Cymru Hardd wedi cyrraedd!

11/07/2024

Darllen mwy