A A A

Dathlu 265 mannau gwyrdd anhygoel Cymru

Mae 265 parc a man gwyrdd yng Nghymru wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.  Maent yn cynnwys ystod amrywiol o safleoedd, o barciau gwledig a gerddi ffurfiol, i randiroedd, coetir a mynwentydd. 

Bellach yn ei thrydydd degawd, mae Gwobr ryngwladol y Faner Werdd yn arwydd bod gan barc neu fan gwyrdd y safonau amgylcheddol uchaf posibl, ei fod yn cael ei gynnal a’i gadw’n rhagorol a bod ganddo gyfleusterau gwych i ymwelwyr. 

Mae’r rheiny sydd yn ennill am y tro cyntaf yn cynnwys Parc Penallta yng Nghaerffili ag Canolfan Ymwelwyr Ynyslas yn Aberystwyth a Pharc Bishop yng Nghaerfyrddin.

Mae gan ein mannau gwyrdd lleol yn chwarae rhan hanfodol i gysylltu ni â byd natur. Mae’r gwobrau hyn yn profi bod parciau ac ardaloedd tebyg Cymru yn gwneud gwaith gwych yn darparu lleoedd o safon i ymlacio a mwynhau. Mae’r safon sy’n ofynnol i ennill statws y Faner Werdd yn uchel iawn felly rwyf am longyfarch pob un o’r safleoedd a gydnabyddir am ddarparu cyfleusterau rhagorol trwy gydol y flwyddyn i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae’n wych gweld ein bod ni’n dal i ddal mwy na thraean o safleoedd cymunedol Baner Werdd y DU yng Nghymru – yn enwedig gan fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi dysgu i ni i gyd pa mor bwysig yw natur a mannau gwyrdd i’n lles meddyliol a chorfforol.

Julie James
Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr isod

Rydym yn bob amser yn chwilio am fannau newydd i ymuno â Gwobrau’r Faner Werdd. Os hoffech roi eich parc neu fan gwyrdd chi ar y map, ewch i adran wefan Gwobr y Faner Werdd am fwy o wybodaeth.

Mae’r blyneddau diwethaf yn dangos i ni pa mor bwysig yw parciau a manau gwyrdd o ansawdd da i’n cymunedau. Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn longyfarch gwaith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol yn y safleoedd hyn.

Lucy Prisk
Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus

Safleoedd gafodd Wobr y Faner Werdd 22/23

Erthyglau cysylltiedig

Parciau Cymru’n cael eu cydnabod fel y ‘gorau o’r goreuon’

14/11/2024

Darllen mwy
Dathlu enillwyr Gwobrau Cymru Daclus 2024

17/09/2024

Darllen mwy
12 safle treftadaeth Cymru yn cael statws dwbl y Faner Werdd

10/09/2024

Darllen mwy
Cymru yn chwifio mwy o Faneri Gwyrdd Cymunedol nag unrhyw wlad arall ar draws y byd

16/07/2024

Darllen mwy