Yn Eisteddfod Genedlaethol 1972 yn Hwlffordd, roedd gan Sefydliad y Merched genhadaeth i gadw trefi ac ardaloedd gwledig ar hyd a lled Cymru yn lân ac yn daclus. Arweiniodd eu hangerdd a’u penderfynoldeb i ddiogelu’r amgylchedd rhag sbwriel ym Mhrydain ar ôl y rhyfel at ffurfio grŵp Keep Britain Tidy ac, yn ddiweddarach, ymgyrch Cadwch Gymru’n Daclus a esgorodd ar elusen bresennol Cadwch Gymru’n Daclus.
Rydym wedi dod yn bell ers hynny.
Am hanner canrif, rydym wedi bod yn creu mannau sydd yn teimlo’n ddiogel, yn lân ac yn wyrdd; rydym wedi ysbrydoli cenedlaethau o blant, wedi codi safonau mewn rhagoriaeth amgylcheddol ac wedi meithrin cysylltiadau gyda phartneriaid byd-eang. Wrth wynebu’r argyfwng hinsawdd, colli bioamrywiaeth a llygredd, rydym wedi datblygu rhaglenni a phrosiectau sy’n cefnogi gweithredu cynaliadwy, cadarnhaol.
Mae hon yn foment o falchder i Sefydliad y Merched. Mae’n fraint fawr cael bod yn rhan o greu sefydliad sydd wedi gwneud gymaint i’r amgylchedd lleol ar hyd a lled Cymru a gallu dathlu gyda’n gilydd ar adeg pan mae Sefydliad y Merched yn parhau i ganolbwyntio ar brosiectau fel prosiect treftadaeth naturiol coed a newid hinsawdd. Eirian RobertsCadeirydd Pwyllgor Ffederasiynau Cymru
Eirian RobertsCadeirydd Pwyllgor Ffederasiynau Cymru
Mae gan Cadwch Gymru’n Daclus le arbennig yng nghalonnau llawer o bobl a chymunedau ar hyd a lled Cymru, ac wrth i 12 mlynedd anhygoel wrth y llyw ddod i ben i mi, rwy’n eithriadol o falch o’r gwaith y mae fy nhîm wedi ei gyflawni i wneud Cymru yn lle gwell i fyw. Ond mae mwy o waith i’w wneud o hyd. Rwy’n gwybod fy mod yn ei adael yn nwylo tîm o safon fyd-eang ac rwy’n gofyn i chi barhau i’w cefnogi i gyflawni ein gweledigaeth Lesley Jones Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Lesley Jones Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Er bod 2022 yn flwyddyn sy’n parhau i herio ein llesiant a’n ffordd o fyw, mae hefyd yn cynnwys dealltwriaeth gynyddol o’r Gymru yr ydym eisiau byw ynddi ac yn gyfle i ni gyd weithio gyda’n gilydd i greu Cymru hardd nawr ac i’r dyfodol.
Byddwch yn rhan o’r 50 mlynedd nesaf. Darllenwch ein strategaeth, Cymru Hardd i ganfod sut gallwch fod yn rhan o ofalu am y wlad ryfeddol hon.
Helpwch ni i ddathlu ein pen-blwydd yn 50 oed! Rhannwch eich straeon, eich lluniau a’ch fideos ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #CadwchGymrunDaclus50
27/10/2022
26/09/2022
13/09/2022
05/05/2022