A A A

Dathlu 248 mannau gwyrdd anhygoel Cymru

Mae 248 parc a man gwyrdd yng Nghymru wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd. Maent yn cynnwys ystod amrywiol o safleoedd, o barciau gwledig a gerddi ffurfiol, i randiroedd, coetir a mynwentydd.

Bellach yn ei thrydydd degawd, mae Gwobr ryngwladol y Faner Werdd yn arwydd bod gan barc neu fan gwyrdd y safonau amgylcheddol uchaf posibl, ei fod yn cael ei gynnal a’i gadw’n rhagorol a bod ganddo gyfleusterau gwych i ymwelwyr.

Mae’r rheiny sydd yn ennill am y tro cyntaf yn cynnwys Parc Slip ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Thwyni Tywod Gronant yn Sir Ddinbych.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor wrth ei fodd bod Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Gronant wedi ennill Gwobr y Faner Werdd Cadwch Gymru'n Daclus. Gwnaed llawer o ymdrech i uwchraddio’r seilwaith ar y safle ac sy’n caniatáu i ymwelwyr a thrigolion werthfawrogi’r harddwch naturiol wrth gadw cyn lleied â phosibl o aflonyddwch a hoffwn ddiolch i’r holl staff a gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio mor galed i wneud hyn yn bosibl

Cynghorydd Tony Thomas
Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Dinbych

Mwy o fannau gwyrdd yn ennill gwobrau nag erioed o’r blaen

Mae gan Gymru dros draean safleoedd cymunedol Baner Werdd y DU, sydd yn cael eu cynnal a’u cadw a’u rhedeg gan wirfoddolwyr.  Mae amrywiaeth o fannau gwyrdd wedi cyflawni Gwobr Gymunedol y Faner Werdd am y tro cyntaf yn cynnwys Ynys Tysilio, Ynys Môn a Golchdy Tŷ Tredegar, Casnewydd.

Mae mannau gwyrdd yn hanfodol i iechyd meddwl a chorfforol a trwy gydol y pandemig, rydym wedi gweld pa mor bwysig mae’r mannau hyn wedi bod i gymunedau lleol. Mae gan Gymru dros draean safleoedd cymunedol Baner Werdd y DU o hyd ac mae’n rhagorol gweld mwy o fannau yng Nghymru yn derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Cymunedol y Faner Werdd. Mae’r tirweddau hyn yn chwarae rhan hanfodol yn cyflwyno ecosystemau cyfoethog a chymunedau bywiog a chydnerth, ac rwyf yn llongyfarch pob safle am ddarparu cyfleusterau a digwyddiadau rhagorol, drwy’r flwyddyn ar gyfer pobl yng Nghymru.

Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.  Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol eu hamser ar ddechrau’r hydref i feirniadu safleoedd ymgeiswyr yn erbyn wyth maen prawf llym, yn cynnwys bioamrywiaeth, glanweithdra, rheolaeth amgylcheddol a chyfranogiad cymunedol.

Dangosodd y pandemig i ni pa mor bwysig yw parciau a manau gwyrdd o ansawdd da i’n cymunedau. Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn longyfarch gwaith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol yn y safleoedd hyn.

Lucy Prisk
Cydlynydd y Faner Werdd

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr isod

Rydym yn bob amser yn chwilio am fannau newydd i ymuno â Gwobrau’r Faner Werdd. Os hoffech roi eich parc neu fan gwyrdd chi ar y map, ewch i adran wefan Gwobr y Faner Werdd am fwy o wybodaeth.

Safleoedd gafodd Wobr y Faner Werdd 2021/22

Erthyglau cysylltiedig

Parciau Cymru’n cael eu cydnabod fel y ‘gorau o’r goreuon’

14/11/2024

Darllen mwy
Dathlu enillwyr Gwobrau Cymru Daclus 2024

17/09/2024

Darllen mwy
12 safle treftadaeth Cymru yn cael statws dwbl y Faner Werdd

10/09/2024

Darllen mwy
Cymru yn chwifio mwy o Faneri Gwyrdd Cymunedol nag unrhyw wlad arall ar draws y byd

16/07/2024

Darllen mwy