Dyma gip olwg ar digwyddiadau dros yr wythnos dwythaf
Gwnaethom weithio gyda Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar y 3 Ebrill i lanhau Yr Wyddfa.
Ymunodd tîm gwrol o 18 o wirfoddolwyr â staff o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar y daith at gopa uchaf Cymru, gan gasglu llond 19 bag a 105 kilo o sbwriel o’r mynydd ar hyd y ffordd, gan gynnwys crwyn banana, poteli plastig a hyd yn oed pecyn o wyau heb ei agor.
"Roeddem yn falch o gymryd rhan yn yr ymgyrch a chefnogi gwaith anhygoel Cadwch Gymru’n Daclus. Fel bob amser, diolch i bawb sy’n helpu i warchod yr Wyddfa, gan gadw’r amgylchedd yn ddiogel ac yn ddeniadol i bawb ei fwynhau. Cofiwch, mae’n rhaid i’r hyn sy’n cyrraedd y copa ddod nôl i lawr gyda chi”.
Etta Trumper Swyddog Gwirfoddoli a Lles Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
“Roeddwn i eisiau cymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru er mwyn helpu i gadw Cymru’n daclus a rhoi rhywbeth yn ôl i Eryri”.
Caroline Faux Gwirfoddolwraig gyda Chymdeithas Eryri
Yn y cyfamser, ymunodd gwirfoddolwyr â Cadwch Gymru’n Daclus a staff o’r gymdeithas Cadwraeth Forol. Gyda’i gilydd, cawsant wared ar lond 3 bag ac 16 cilos o sbwriel o draeth Bae Cinmel.
“Blwyddyn ar ôl blwyddyn, rydyn ni’n parhau i ganfod a chofnodi cannoedd o eitemau sbwriel ar ein traethau, sy’n fygythiad i bobl, i fywyd gwyllt ac i’n moroedd. Mae’r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â Cadwch Gymru’n Daclus ar gyfer Gwanwyn Glân Cymru 2022."
Ffion Mitchell Rheolwr Gwirfoddoli ac Ymgysylltu â'r Gymuned ar gyfer Cymdeithas Cadwraeth Forol (Cymru)
Fe wnaethom hefyd gynnal ein digwyddiad ‘Pawennau a Phic’ ym Mharc Bute. Ymunodd gwirfoddolwyr a staff â ni (gan gynnwys eu ffrindiau pedair coes) a gwestai arbennig, Behnaz Akhgar o BBC Radio Wales, a gymerodd ran yn y glanhau a hyrwyddo ein hymgyrch Glanhau Gwanwyn Cymru a Baw Cŵn yn fyw ar yr awyr ar raglen Owen Money. ‘Money for Nothing’.
“Am ddiwrnod hyfryd ac am beth anhygoel i allu gwneud gyda Cadwch Gymru’n Daclus. Mae'n braf gallu dod allan i helpu'r gymuned. Os oes gennych chi amser, ceisiwch gofrestru neu ewch draw i'ch hyb codi sbwriel lleol i godi sbwriel. Mae mor foddhaol, rydych chi'n cerdded i mewn, yn cael awyr iach ac yn gwneud rhywbeth neis iawn i'r gymuned hefyd."
Behnaz Akhgar BBC Radio Wales
“Gall sbwriel niweidio’r holl anifeiliaid gwahanol a dyw hi ddim yn braf iawn iddyn nhw fynd yn sownd mewn pethau.”
Sammy Ray Gwirfoddolwr 10 oed
Parhewch i ddarllen...

Cyflwyno Eco-Tots Cymru: ysbrydoli cenhedlaeth ieuengaf Cymru
Darllen rhagor
48 lleoliad yng Nghymru yn cael eu coroni gyda’r traethau a’r marinas gorau yn y byd
Darllen rhagor
Lansio prosiect Y Goedwig Hir Drefol i adfer coedwrych Cymru
Darllen rhagor








