Disgyblion ar draws Cymru yn galw am weithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn ystod digwyddiad rhithiol

Yr wythnos diwethaf (26-30 Ebrill), cymerodd dros 2,000 o ddisgyblion o 50 o ysgolion cynradd ran yn ein digwyddiad rhithiol mwyaf erioed.

Ymunodd Eco-Sgolion ar draws Cymru â chyfres o weithdai a heriau newid hinsawdd ar-lein.  Bob dydd, dysgodd y disgyblion am agweddau gwahanol ar yr argyfwng newid hinsawdd byd-eang, yn cynnwys pwysigrwydd diogelu coedwigoedd a’r cynnydd mewn ffasiwn cyflym.

Meddyliwyd am atebion creadigol a rhai enillion hawdd ar gyfer lleihau ein hôl troed carbon, o brynu a defnyddio llai i ddefnyddio mathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth.  Maent hefyd wedi cael eu hysbrydoli i gymryd rhan mewn atebion yn seiliedig ar natur, yn cynnwys plannu coed, cefnogi prosiectau plannu morwellt ac adfer mawn.

Roedd y neges gan bob ysgol yn glir – mae’n rhaid i ni weithredu nawr i ddiogelu ein hamgylchedd ar gyfer y dyfodol.  Dywedodd Isaac, disgybl Blwyddyn 4 o Ysgol Gynradd Gymunedol Crugywel:

Mae’r holl newid amgylcheddol yn ofnadwy ond gyda’n gilydd, os byddwn yn gweithio’n galed, gallwn ei atal.

Isaac
Disgybl Blwyddyn 4 o Ysgol Gynradd Gymunedol Crugywel

Roedd yn wych gweld cymaint o Eco-Sgolion yn cymryd rhan yn ein gweithdai newid hinsawdd; yn rhannu syniadau creadigol ynghylch sut i greu byd cydnerth, mwy cynaliadwy. Er bod disgyblion wedi wynebu cyfnod anodd dros y flwyddyn ddiwethaf, roedd yn amlwg nad yw eu hymrwymiad i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd wedi arafu. Mae angen i ni i gyd ddilyn eu harweiniad a gweithredu nawr i ddiogelu ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Lesley Jones
Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Ariennir rhaglen Eco-Sgolion yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.

Erthyglau cysylltiedig

Taith allyriadau isel Eco-Sgolion Cymru i Foroco

06/03/2023

Darllen mwy
Rydyn ni’n galw ar bob ysgol i gael siop gyfnewid gwisg ysgol

24/11/2022

Darllen mwy
Galwadau am weithredu ar yr hinsawdd wrth i ras gyfnewid arloesol deithio drwy Gymru

01/11/2022

Darllen mwy
Owen Derbyshire yn ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus

27/10/2022

Darllen mwy