Mae Gwanwyn Glân Cymru bellach wedi cael dechrau, mae dros 300 o ddigwyddiadau glanhau bellach wedi’u haddo, mae hyn ymhell dros 4,000 o fagiau o sbwriel a chyfrif wedi’u codi ledled Cymru.
Mae digwyddiadau glanhau di-ri eisoes wedi digwydd dros yr wythnos ddiwethaf ledled y wlad ac wedi esgor ar ganlyniadau anhygoel yn barod.
Hoffem ddiolch i’r gwirfoddolwyr anhygoel, grwpiau cymunedol, busnesau ac ysgolion sydd eisoes wedi bod yn brysur yn codi sbwriel.
Nid yw’n rhy hwyr i gymryd rhan
Dyma gipolwg ar weithgaredd dros yr wythnos ddiwethaf.
Dydd Sadwrn diwethaf roedd yr haul yn gwenu ar ein gwirfoddolwyr yn pigo ym Mhorthaethwy ochr yn ochr ag Iestyn a Mali o Rownd a Rownd.
Aeth pawb ati i gasglu sbwriel ar draws yr arfordir a gorffen y digwyddiad gyda thaith arbennig o amgylch set Rownd a Rownd ym Mhorthaethwy.
Parhewch i ddarllen...

Mae 330 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru, y nifer uchaf erioed, wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Baner Werdd 2026 wrth i’r wobr ryngwladol ddathlu 30 mlynedd
Darllen rhagor
Gweinidog Cabinet a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn uno i alw am haf o godi sbwriel
Darllen rhagor
Mae mwy na thri chwarter o ysgolion ledled Cymru yn cymryd camau dros yr amgylchedd
Darllen rhagor








