Wedi cael eu cynnal ers 1990, mae Gwobrau Cymru Daclus yn anrhydeddu arwyr amgylcheddol – yr unigolion, y grwpiau a’r busnesau sy’n mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau i gadw ardaloeddd lleol yn lân, yn wyrdd ac yn ddiogel, yn diogelu natur ac yn annog cynaliadwyedd.
Mae categorïau Gwobrau Cymru Daclus 2024 a noddir gan Gymdeithas Tai Wales & West yn cynnwys amrywiaeth o feysydd amgylcheddol, o’r economi gylchol i dyfu bwyd. Mae’r categori Ieuenctid Newid Hinsawdd yn newydd ar gyfer 2024 ac yn hyrwyddo angerdd pobl ifanc.
Ydych chi’n ystyried enwebu rhywun yr ydych chi’n ei adnabod? Gallwch enwebu eich hun, grŵp, ysgol, sefydliad, ffrind(iau), teulu neu gydweithiwr/cydweithwyr.
Cliciwch ar gategori i ganfod mwy:
Ers 1990, mae Gwobrau Cymru Daclus wedi rhoi’r cyfle i ni dynnu sylw at arwyr amgylcheddol di-glod ar draws y wlad. Mae cryn dipyn wedi newid yn ystod y cyfnod hwn; ond yr hyn sydd wedi parhau’n gyson yw angerdd a phenderfynoldeb yr unigolion, y grwpiau, yr ysgolion, y busnesau a’r partneriaid eraill yr ydym yn cael y fraint o weithio gyda nhw. Rydym yn methu aros i glywed yr holl straeon fydd yn ein hysbrydoli gan enwebeion 2024 Owen DerbyshirePrif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Owen DerbyshirePrif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Mae’n bleser gennym noddi Gwobrau Cymru Daclus, i ddathlu’r bobl sy’n mynd allan o’u ffordd i ofalu am yr amgylchedd. Yn Grŵp Cymdeithas Tai Wales & West, rydym yn angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau. Rydym eisiau i’n preswylwyr fod yn falch o’r ardaloedd lle maent yn byw; p’un ai’n creu lleoedd lle gall natur ffynnu, creu gerddi cymunedol i dyfu eu bwyd eu hunain neu gadw eu strydodd yn rhydd rhag sbwriel. Trwy weithio gyda phreswylwyr a’n partneriaid gallwn i gyd helpu i greu teimlad o falchder yn ein cymunedau. Mae Gwobrau Cymru Daclus yn chwarae rhan bwysig yn hyrwyddo’r gwirfoddolwyr, yr ysgolion a’r sefydliadau sydd yn helpu i wneud Cymru yn lle harddach fyth i ni a chenedlaethau’r dyfodol. Anne HincheyPrif Weithredwr Grŵp Cymdeithas Tai Wales & West, prif noddwr Gwobrau Cymru Daclus
Anne HincheyPrif Weithredwr Grŵp Cymdeithas Tai Wales & West, prif noddwr Gwobrau Cymru Daclus
Mae enwebiadau ar gyfer Gwobrau Cymru Daclus ar agor hyd at 21 Mehefin 2024. Gallwch enwebu eich hun, grŵp, ysgol, sefydliad, ffrind(iau), teulu, neu gydweithiwr/cydweithwyr. Gellir cyflwyno enwebiadau ar-lein trwy nodyn llais neu fideo.
I gael gafael ar y ffurflen enwebu, cliciwch yma
10/09/2024
16/07/2024
11/07/2024
14/05/2024