Derbyniwyd yr anrhydedd uchaf yng Ngwobrau Busnes Caerdydd 2022 wythnos diwethaf yn Neuadd y Ddinas Caerdydd.
Roeddem yn wynebu cystadleuaeth gref gan yr enwebeion eraill, Creative Spaces Design, Fleet-E a Think Air am wobr ‘Busnes Gwyrdd y Flwyddyn’ a noddir gan Genesis Biosciences.
Mae 2022 yn nodi Hanner Can Mlwyddiant Cadwch Gymru’n Daclus ac mae cael ‘Busnes Gwyrdd y Flwyddyn’ yn brawf o waith gwych staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid Cadwch Gymru’n Daclus yn gwella a diogelu amgylchedd Cymru. Dros yr hanner can mlynedd diwethaf, rydym wedi ehangu a gwella’r gwaith yr ydym yn ei wneud, o fod yn gasglwyr sbwriel a grëwyd i ‘Gadw Cymru’n Daclus’ nôl ym 1972, i fod yn sefydliad sydd bellach yn cynorthwyo’r bobl fwyaf agored i niwed ar draws Cymru i wella eu hamgylchedd lleol er budd cymdeithasol, llesiant, iechyd ac economaidd. Mae’n wych gweld ein gwaith yn cael ei gydnabod a’i ddathlu ar ein hanner can mlwyddiant mewn digwyddiad mor flaenllaw. Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Ar ddechrau 2022, lansiwyd strategaeth uchelgeisiol ar gyfer y degawd sydd yn addo parhau i weithio i ddiogelu a hyrwyddo amgylchedd naturiol Cymru.
Darparu gofod sydd yn teimlo’n ddiogel, yn lân ac yn wyrdd i holl gymunedau Cymru ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol trwy:
Mae ein cymunedau’n chwarae rhan allweddol yn cyflawni’r gwaith yma. Mae ein gwirfoddolwyr cymunedol, ein sefydliadau partner a’n partneriaid ariannu i gyd yn elfennau pwysig o’n gallu i gyflawni ein gweledigaeth o Gymru hardd y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau.
Mae Gwobrau Busnes Caerdydd eleni wedi dangos yr amrywiaeth o gwmnïau o ansawdd uchel sydd yn ffurfio’r gymuned fusnes yn ein prifddinas a’r pwysigrwydd y maent yn dal i’w roi i arloesi a thwf cynaliadwy. Ar ran Cyngor Caerdydd, hoffwn longyfarch y cwmnïau buddugol a diolch iddynt am y cyfraniad y maent yn ei wneud i’r economi a’n cymunedau, a dymunaf bob llwyddiant iddynt yn y dyfodol. Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd
Trefnir gwobrau Busnes Caerdydd gan Grapevine Event Management a chawsant eu noddi a’u cefnogi gan: Euroclad Group, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Charles Stanley, Genesis Biosciences, Landsec, Cyflog Byw i Gymru, Ogi, Vindico, Croeso Cymru, United Worldwide Logistics, Stills, Lexon, a Business News Wales.
02/12/2024
19/11/2024
15/11/2024
14/11/2024