Mae Parc Gwledig Margam wedi cael ei gynnwys fel un o’r deg o barciau a mannau gwyrdd gorau yn y DU yn dilyn pleidlais gyhoeddus.
I ddathlu’r Faner Werdd ragorol sy’n cael ei dyfarnu i barciau a mannau gwyrdd ar draws y DU, mae’r cyhoedd wedi pleidleisio dros eu hoff safle Baner Werdd yng Ngwobrau Dewis y Bobl 2022.
Gwobr y Faner Werdd yw’r safon ansawdd rhyngwladol ar gyfer parciau a mannau gwyrdd.
Yn ystod mis Hydref, gwahoddwyd y cyhoedd i bleidleisio dros un o’u hoff barciau neu fannau gwyrdd sydd wedi derbyn y Faner Werdd ac ymysg y deg gorau yn y wlad y mae Parc Gwledig Margam yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Rydym yn falch o dderbyn yr anrhydedd haeddiannol hwn i Barc Gwledig Margam. Mae’r parc yn dirnod pwysig i’n preswylwyr lleol ac i ymwelwyr ac mae’r wobr hon yn dangos gymaint y mae pobl yn ei werthfawrogi. Da iawn i’r staff i gyd sydd yn gweithio’n galed i wneud y parc yn gymaint o lwyddiant, ac am sicrhau bod ei safonau uchel a’i ddarpariaeth o fannau gwyrdd o ansawdd yn parhau! Dywedodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod o Gabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a llesiant
Dywedodd y Cynghorydd Jeremy Hurley, Aelod o Gabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Newid Hinsawdd a llesiant
Yn ymuno â Pharc Margam yn neg uchaf Dewis y Bobl o’r parciau a’r mannau gwyrdd mwyaf poblogaidd y mae:
Llongyfarchiadau mawr i Barc Gwledig Margam a’r holl enillwyr haeddiannol eraill ar draws y DU. Gyda 2,208 o barciau a mannau gwyrdd yn derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd, mae cael eich enwi yn un o hoff rai’r genedl yn gyflawniad mawr. Mae’n wych dathlu holl waith caled staff a gwirfoddolwyr y parciau ar hyd a lled y wlad. Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Gymru’n Daclus
Mae ceisiadau bellach ar agor i wneud cais am Wobr y Faner Werdd.
Mae Gwobr y Faner Werdd yn ymwneud â rhoi pobl mewn cysylltiad â’r parciau a’r mannau gwyrdd gorau. Dyma’r meincnod ar gyfer parciau a mannau gwyrdd yn y DU a thu hwnt.
Ble bynnag y byddwch yn gweld Baner Werdd, byddwch yn gwybod eich bod yn ymweld â lle eithriadol gyda’r safonau uchaf.
Canfod mwy a gwneud cais.
14/11/2024
17/09/2024
10/09/2024
16/07/2024