A A A

Ewch ati i dyfu yn ystod Wythnos Genedlaethol Rhandiroedd – mae cymaint o fuddion i gael rhandir

Wythnos hon yw’r cyntaf Wythnos Genedlaethol Rhandiroedd y DU ar hugain. Rydym yn hoff iawn o randiroedd yng Nghymru – mae rhestrau aros yn tyfu a thyfu ac mae’r darnau tir ar rent yn cael eu cymryd cyn gynted ag y maent ar gael.

Mae hynny am fod llu o fuddion iechyd meddwl a chorfforol i feithrin rhandir.

Mae ein Dirprwy Brif Weithredwr, Louise Tambini, wedi bod â rhandir yn Rhandiroedd Parhaol Pontcanna, Caerdydd ers 15 mlynedd.

Mae cynnal rhandir yn therapiwtig iawn. Mae treulio amser yno yn fy helpu i ymlacio ac mae’n dysgu sgiliau newydd i mi o ran tyfu, adeiladu ac addasu eitemau at ddibenion gwahanol. Mae’n rhoi gymaint o foddhad gweld rhywbeth yr ydych wedi ei blannu fel hedyn bach yn datblygu’n blanhigyn ffrwythlon, hyfryd.

Louise Tambini
Dirprwy Brif Weithredwr, Cadwch Gymru’n Daclus

Deg rheswm da pam mae cael rhandir yn syniad gwych

  • Mae gofalu am randir yn wych i frwydro yn erbyn unigrwydd: mae’n gymdeithasol iawn. Mae cymunedau’n dod ynghyd ac yn cael eu creu mewn rhandiroedd.
  • Mae rhannu a meithrin gwybodaeth a sgiliau, yn ogystal â ffrwyth eich llafur, yn creu cysylltiad bendigedig gydag eraill yn y gymuned.
  • Mae cloddio a phlygu yn wych i ffitrwydd corfforol a bod yn actif.
  • Mae mwynhau cynhaeaf eich rhandir yn ffordd wych o gael enfys o 5 y dydd
  • Mae tyfu a rhoi cynnig ar gynhwysion ffres yn ystod yr argyfwng costau byw presennol yn gost effeithiol hefyd.
  • Mae arbed ar ffioedd campfa a hyfforddwr personol, tra’n cael buddion iechyd meddwl wrth wneud ymarfer corff yn yr awyr agored, yn rhoi boddhad mawr.
  • Mae’n rhoi boddhad gwylio cnydau, blodau a phlanhigion yn tyfu, ac mae darparu cynnyrch dros ben ar gyfer teulu, ffrindiau a’r cymuned yn wych.
  • Mae rhandiroedd yn berffaith ar gyfer mwynhau bywyd gwyllt a bod yn yr awyr agored.
  • Gallwch fwynhau rhinweddau pob tymor gyda’r holl elfennau y mae pob un yn eu cynnig.
  • Mae bod yn yr awyr agored yn dda i’r enaid ac i les meddwl

Mae rhai o gnydau fy rhandir wedi cynnwys 25 gwrd cnau menyn un hydref, ond bydd unrhyw un sydd â rhandir yn gallu dweud eich bod bob amser yn cael gormodedd o rai cnydau. Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o le yn y rhewgell a pheidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar ryseitiau newydd gyda chnydau! Mae fy arbrofi wedi cynnwys gin cyrens duon; blondies riwbob a chwstard; bariau egni cyrens duon; agrodolce [saws Eidalaidd chwerw-felys, sydd i’w weld yn aml ar silffoedd gyda Balsamic]; risoto betys; cacen corbwmpen, lemwn a leim; prosecco cartref o’r winwydden a llawer mwy!

Louise Tambini
Dirprwy Brif Weithredwr, Cadwch Gymru’n Daclus

Mae fy rhandir yn caniatáu i mi eistedd a gwrando ar fywyd gwyllt a gwylio adar yn bwydo ac yn nythu. Rwy’n mwynhau cymryd amser i arafu a sylwi ar y byd o’m cwmpas, natur ar stepen y drws Mae cnydau yn organig ac yn blasu’n rhagorol – dydw i ddim yn credu bod fy mhys ffres wedi cyrraedd gartref eto!

Louise Tambini
Deputy Chief Executive, Keep Wales Tidy

Erthyglau cysylltiedig

Pecynnau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur newydd ar gael

19/04/2024

Darllen mwy
Cyflwyno Prosiect Y Goedwig Hir Drefol

29/02/2024

Darllen mwy
Gwnewch gais nawr am becyn gardd am ddim

12/06/2023

Darllen mwy
Gardd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ennill gwobr gadwraeth flaenllaw

12/01/2023

Darllen mwy