A A A

Prosiect newydd cyffrous yn defnyddio AI i fynd i’r afael â sbwriel

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi cael ei dewis gan Sefydliad Alan Turing i fynd i’r afael â sbwriel gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial.

Gan weithio mewn partneriaeth â Keep Scotland Beautiful, rydym wedi cael ein dewis i gymryd rhan yn rhaglen ar y cyd gyntaf Turing Internship Network (TIN) a Data Study Group (DSG) Sefydliad Alan Turing.

Ein gobaith yw deall a ellir defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i ddadansoddi delweddau o sbwriel a gwella casglu data yn ystod arolygon sbwriel. Byddwn hefyd yn ymchwilio sut gall gwyddor data alluogi awdurdodau lleoli i ddeall patrymau sbwriel yn well mewn mannau cyhoeddus.

Bydd y rhaglen yn gosod ymchwilydd PhD gwyddor data yn ein sefydliad i weithio ar yr her ddata. Bydd yr intern yn defnyddio eu sgiliau ymchwil a thechnegol i ganfod ffyrdd newydd o wynebu’r her, tra’n datblygu arbenigedd helaeth yn y testunau hefyd.

 

Rydym wrth ein bodd i fod yn cydweithredu gyda Keep Scotland Beautiful ar y prosiect cyffrous hwn a hoffem ddiolch i The Turing am eu cefnogaeth. Gallai AI roi buddion a chyfleoedd arwyddocaol i’n gweithgareddau ymchwil, ond mae llawer iawn nad yw’n cael ei archwilio a’i ymchwilio’n llawn. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda rhai o arbenigwyr blaenllaw y byd er mwyn deall yn well sut gallai AI ein helpu ni i fynd i’r afael â sbwriel yn y dyfodol.

Lesley Jones
Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus

Daw’r cydweithrediad cyffrous hwn gyda’n partneriaid yn Cadwch Gymru’n Daclus ar adeg eithriadol o bwysig. Gwyddom fod 88% o Albaniaid yn cytuno bod sbwriel yn broblem ar draws yr Alban ac mae ein data’n dangos bod y problemau’n gwaethygu – gyda chynnydd o 111% dros y degawd diwethaf mewn safleoedd â sbwriel sylweddol. Rydym wrth ein bodd bod ein prosiect wedi cael ei ddewis gan Sefydliad Alan Turing i ymchwilio i’r ffordd y gall AI helpu i wella sut rydym yn casglu data, yn gwneud ymchwil ac yn targedu ymyriadau yn y dyfodol i fynd i’r afael â sbwriel a newid ymddygiad.

Catherine Gee
Dirprwy Brif Weithredwr Keep Scotland Beautiful

Mae Cadwch Gymru’n Daclus a Keep Scotland Beautiful wedi cael eu dewis ynghyd ag wyth sefydliad arall, ar draws y DU, sydd i gyd yn canolbwyntio ar ddatrys ystod eang o broblemau amgylcheddol a chynaliadwyedd hanfodol. Mae’r heriau lleol, rhanbarthol a byd-eang hyn yn amrywio o ganfod patrymau streipiau teigr i helpu i wrthsefyll masnachu mewn teigrod a chroen teigrod, i nodi ffynonellau llygredd afonydd.

Beth yw Sefydliad Alan Turing?

Sefydliad Alan Turing yw sefydliad cenedlaethol y DU ar gyfer gwyddor data a deallusrwydd artiffisial, gyda’i bencadlys yn y Llyfyrgell Brydeinig.

Mae’r Sefydliad wedi ei enwi er anrhydedd i Alan Turing, (23 Mehefin 1912 – 7 Mehefin 1954), yr ystyrir bod ei waith arloesol mewn mathemateg ddamcaniaethol a chymhwysol, peirianneg a chyfrifiadureg wedi gosod y sylfeini ar gyfer gwyddor data a deallusrwydd artiffisial yr oes fodern.

Rydym wedi cael ein dewis ynghyd ag wyth sefydliad arall, ar draws y DU, sydd i gyd yn canolbwyntio ar ddatrys ystod eang o broblemau amgylcheddol a chynaliadwyedd hanfodol. Mae’r heriau lleol, rhanbarthol a byd-eang hyn yn amrywio o ganfod patrymau streipiau teigr i helpu i wrthsefyll masnachu mewn teigrod a chroen teigrod, i nodi ffynonellau llygredd afonydd.

Bydd dod â gwyddonwyr data a chydweithredwyr diwydiant ynghyd yn defnyddio ein grym cydweithredol i fynd i’r afael ag ystod o broblemau amgylcheddol. Rydym wedi canolbwyntio ar sefydliadau amgylcheddol am ein bod wedi ymrwymo i weithio tuag at atebion i rai o’r heriau mawr yn ymwneud â hinsawdd yr ydym yn eu hwynebu’n fyd-eang. Bydd rhaglen ar y cyd TIN a DSG yn cynnig dulliau gwyddor data arloesol i fynd i’r afael â phroblemau’r byd go iawn.

Mark Girolami
Prif Wyddonydd, yr Athro

Mae ceisiadau ar gyfer myfyrwyr PhD i gymryd rhan ar agor nawr – canfod mwy a gwneud cais.

Erthyglau cysylltiedig

Oedi i’r cynllun dychwelyd ernes: ein hymateb

29/04/2024

Darllen mwy
Angen Cynllun Dychwelyd Ernes nawr yn fwy nag erioed

12/03/2024

Darllen mwy
Gwaharddiad ar blastigau untro – beth nesaf?

30/10/2023

Darllen mwy
#OchrauFfyrddTaclus: mynd i’r afael â sbwriel ar ochr y ffordd

20/07/2023

Darllen mwy