Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn annog perchnogion cŵn i lanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes trwy gydol mis cenedlaethol cerdded eich ci a thu hwnt.
Yn ystod mis Ionawr eleni, mae un o elusennau amgylcheddol mwyaf blaenllaw Cymru yn ymuno gydag RSPCA Cymru, Dogs Trust, Cymdeithas Milfeddygon Prydain a’r Cerddwyr fel rhan o ‘fis cerdded eich ci’. Gyda’i gilydd maent yn galw ar berchnogion cŵn i fod yn gyfrifol a glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes.
Mae ‘mis cenedlaethol cerdded eich ci’ yn annog perchnogion cŵn i wynebu tywydd oer y gaeaf a dechrau’r flwyddyn newydd gydag arferion iach. Mae Cadwch Gymru’n Daclus eisiau sicrhau bod hyn yn cynnwys gwaredu baw ci yn iawn.
Nod ymgyrch ‘gadewch olion pawennau yn unig’ yr elusen yw codi ymwybyddiaeth o’r peryglon i iechyd sydd yn gysylltiedig â baw ci; nid yn unig i bobl ond i anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes eraill hefyd.
Gall baw ci sydd yn cael ei adael ar ôl gario bacteria niweidiol sydd yn aros yn y pridd ymhell ar ôl iddo bydru.
Yn anffodus, mae perchnogion anghyfrifol sydd yn caniatáu i’w cŵn faeddu heb lanhau’r baw yn rhy gyffredin. Mae’n beryglus, mae’n ffiaidd ac mae’n rhaid iddo stopio. Mae baeddu yn niweidiol i bobl, ein hamgylchedd ac anifeiliaid eraill hefyd, yn cynnwys cŵn eraill, a gall ledaenu parasitiaid a chlefydau heintus. Mae’n amlwg bod yn rhaid i holl berchnogion cŵn Cymru wneud y peth iawn, bod yn gyfrifol a glanhau’r baw – felly mae’n bleser gennym ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus i gyfleu neges sydd mor bwysig! Dr Samantha Gaines, pennaeth adran anifeiliaid anwes yr RSPCA, ac arbenigwr ar les cŵn
Dr Samantha Gaines, pennaeth adran anifeiliaid anwes yr RSPCA, ac arbenigwr ar les cŵn
Rydym bob amser yn annog perchnogaeth cŵn cyfrifol ac mae glanhau ar ôl eich ci yn elfen allweddol o hynny. Er bod y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn gyfrifol ac yn codi a gwaredu gwastraff eu cŵn pan fyddant allan, yn anffodus, nid yw pawb yn gwneud y peth iawn. Rydym yn annog pawb i roi baw ci yn y bag ac yn y bin er mwyn sicrhau bod mannau cyhoeddus yn lân ac yn ddiogel i bawb sy’n eu defnyddio, yn cynnwys ein cyfeillion pedair coes. Jake Flatman, Rheolwr Ardal Addysg ac Ymgysylltu Cymunedol Dogs Trust, elusen lles cŵn fwyaf y DU
Jake Flatman, Rheolwr Ardal Addysg ac Ymgysylltu Cymunedol Dogs Trust, elusen lles cŵn fwyaf y DU
Mae baw ci nid yn unig yn hyll, ond gall yr ysgarthion hefyd gynnwys parasitiaid fel llyngyr sydd yn gallu heintio pridd a chyflwyno perygl i anifeiliaid anwes eraill, anifeiliaid fferm a phobl. Mae plant ifanc yn arbennig yn debygol o ddod i gysylltiad â difwynwyr a allai fod yn beryglus wrth roi eu dwylo yn eu cegau ar ôl tynnu eu hesgidiau neu chwarae mewn pridd. Mae’n hanfodol bod pob perchennog ci yn gweithredu’n gyfrifol ac yn glanhau ar ôl eu hanifail anwes, er mwyn lleihau’r risg i anifeiliaid, iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd. Collin Willson, Llywydd Cangen Cymru o Gymdeithas Milfeddygon Prydain
Collin Willson, Llywydd Cangen Cymru o Gymdeithas Milfeddygon Prydain
Rydym i gyd wrth ein bodd yn mynd allan am dro i’n parciau a’n mannau gwyrdd lleol, gyda’n cyfeillion pedair coes yn aml a byddwn yn annog unrhyw un sydd yn berchen ar gi i sicrhau eu bod yn gwneud hynny mewn ffordd gyfrifol. Gall baw ci achosi problemau mawr ac mae peidio ei lanhau yn annerbyniol. Mae gan y Côd Cefn Gwlad y gwnaethom helpu ei ddatblygu negeseuon clir a’n gobaith yw y bydd yr ymgyrch hwn yn eu hamlygu, gan adael ein strydoedd, ein parciau a’n mannau gwyrdd yn agored i bawb eu crwydro a’u mwynhau. Angela Charlton cyfarwyddwr Y Cerddwyr
Angela Charlton cyfarwyddwr Y Cerddwyr
Cynhelir yr ymgyrch cenedlaethol fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol wedi ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.
Yn seiliedig ar ymchwil gan arbenigwyr newid ymddygiad, mae arwyddion pinc llachar, stensiliau o olion pawennau a sticeri biniau yn ymddangos ar draws y wlad i ‘annog’ pobl i wneud y peth iawn trwy roi eu baw ci yn y bag ac yn y bin.
I ganfod mwy ac i lawrlwytho deunyddiau am ddim, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus.
Mae Caru Cymru wedi cael cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
18/10/2024
29/04/2024
12/03/2024
30/10/2023