A A A

Galwadau am weithredu ar yr hinsawdd wrth i ras gyfnewid arloesol deithio drwy Gymru

Mae baton yn cynnwys neges newid hinsawdd bwerus gan bobl ifanc i arweinwyr y byd wedi teithio’n llwyddiannus  drwy Gymru ar ei ffordd o Glasgow i’r Aifft.

Cydweithiodd Cadwch Gymru’n Daclus gyda ‘Running out of Time i gefnogi’r ras gyfnewid arloesol ac arddangos gweithredu ysbrydoledig ar yr hinsawdd sy’n digwydd yma yng Nghymru. Bu gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a staff o Gadwch Gymru’n Daclus yn cymryd rhan yn y digwyddiad drwy gario’r baton drwy’r wlad ar 5 a 6 Hydref.

Ymddiriedolwr Mike Leeson oedd y cyntaf i gymryd rhan gan frwydro drwy law trwm a dros fannau’r Brycheiniog i gyrraedd y pwynt cyfnewid mewn pryd.

Swyddog Polisi ac Ymchwil Joe Rees oedd y nesaf i gydio yn y baton wrth iddo redeg 10km  o Gastell Llanymddyfri a Langadog.

Ymunodd Swyddog Prosiect Amy Hines i gwblhau cymal dros nos y ras gyfnewid ddi-stop gan deithio 13km o Gwmllynfell i Bontardawe drwy oriau man bore rhynllyd.

Neges glir o ddisgyblion Eco-Sgolion

Cwblhaodd Swyddog Eco-Sgolion Aimée Hallett gymal dwbl y ras gyfnewid gan seiclo 24km cyn trosglwyddo’r baton i’r rhedwr nesaf yng Nghaerffili.

Cafodd Aimée ei chefnogi gan ddisgyblion Eco-Ysgol Tonysguboriau a oedd wedi casglu sbwriel ar y llwybr. Safon nhw ar ddwy ochr y llwybr gyda’u codwyr sbwriel yn yr awyr i’w chyfarch wrth iddi fynd heibio.

“Roedd yn deimlad hynod arbennig i fod yn rhan o’r ras gyfnewid hinsawdd a chario’r baton a oedd yn cynnwys neges bwysig iawn am fynd i’r afael â newid hinsawdd. Roeddwn i’n teimlo’n falch iawn i gynrychioli Cadwch Gymru’n Daclus ac Eco-Sgolion Cymru yn y digwyddiad. Roedd y gefnogaeth gan bawb, yn enwedig y disgyblion gwych yn Ysgol Tonysguboriau, o gymorth mawr i sbarduno fy nghoesau blinedig.”

Aimée Hallett
Swyddog Eco-Sgolion

Yn ystod y digwyddiad codi sbwriel, rhannodd y disgyblion eu meddyliau am newid hinsawdd a myfyrion nhw ar y neges yn y baton. Rhannodd Lilly, Arweinydd y Cyngor Eco, ei bod yn hapus bod ei hysgol yn casglu sbwriel yn rheolaidd ond hefyd yn teimlo’n siomedig nad oes digon o bobl yn gofalu am ein planed.

Yn olaf wrth i’r cymylau glirio, aeth Rheolwr Rhanbarthol a seiclwr brwd , Jo Friedli tua’r de-ddwyrain gyda’r baton gan seiclo o Ogledd Caerdydd i ganol y ddinas.

Follow the relay on its journey to Egypt

Rydym yn parhau i ddilyn y ras gyfnewid wrth iddi deithio i Sharm el-Sheikh yn yr Aifft (COP27) ar 6 Tachwedd.

Dewch i ddysgu mwy am y neges holl bwysig gan bobl ifanc a chofnodi eich cefnogaeth yma: running-out-of-time.com/

Erthyglau cysylltiedig

Gwneud cyfraniad i Cadwch Gymru’n Daclus am ddim gydag easyfundraising!

02/12/2024

Darllen mwy
Datganiad CDE Cadwch Gymru’n Daclus Tachwedd 2024

19/11/2024

Darllen mwy
Ieuenctid yn arwain y galw am weithredu hinsawdd yn COP Ieuenctid Cymru 2024

15/11/2024

Darllen mwy
Parciau Cymru’n cael eu cydnabod fel y ‘gorau o’r goreuon’

14/11/2024

Darllen mwy