Mae gardd bywyd gwyllt Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a grëwyd yng Ngholeg Cambria yn Sir y Fflint wedi ennill gwobr am gadwraeth.
Derbyniodd y coridor bywyd gwyllt a’r ardd les newydd yng Ngholeg Cambria wobr yn y categori Busnes yng Ngwobrau cyntaf Bionet, a gynhaliwyd yn Venue Cymru, Llandudno.
Canmolodd Bionet, y bartneriaeth natur leol ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru, y gwaith o greu ardal fioamrywiol yn cynnwys dros 2,000 o fylbiau cynhenid, coed ffrwythau, coedwrych, bocsys adar, ystlymod a choedwrych a noddfa lle gall myfyrwyr, staff a’r gymuned wella eu hiechyd a’u lles.
Dechreuodd y cynorthwyydd dosbarth Brian Valentine a grŵp o ddysgwyr Twf Swyddi Cymru+, staff ac aelodau’r Academi Hyfforddeion Adeiladu’r gwaith ar y safle 40 metr sgwâr 12 mis yn ôl fel rhan o’n prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Mae ennill y wobr hon lai na 12 mis ar ôl i’r ardd a’r corodor bywyd gwyllt agor yn anrhydedd enfawr i ni. Am ei fod yn brosiect byw, bydd yn parhau i esblygu a thyfu, ond mae hyn yn rhoi llwyfan i ni wneud hyd yn oed mwy yn y blynyddoedd i ddod. Bydd adrannau eraill a’r coleg yn gyffredinol yn elwa ar y fenter hirdymor hon am ein bod wedi cynnwys datblygu a chynnal a chadw’r safle yn ein amserlen dosbarthiadau, gan weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid fel Cadwch Gymru’n Daclus a busnesau lleol. Brian ValentineCynorthwyydd Dosbarth Coleg Cambria
Brian ValentineCynorthwyydd Dosbarth Coleg Cambria
Mae’r ardd yn un o 900 o fannau gwyrdd sydd wedi eu cael creu, eu hadfer a’u gwella ar draws y wlad, diolch i gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Ariennir y prosiect gan raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, sydd yn cael ei rhedeg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.
Mae wedi bod yn bleser helpu Coleg Cambria i greu gardd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur sydd mor hardd. Diolch i’r staff, y gwirfoddolwyr a’r disgyblion angerddol am wneud hynny’n bosibl. Bydd yr ardd hon o fudd i’r gymuned leol ac i fywyd gwyllt am flynyddoedd i ddod. Wendy JonesSwyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus ar gyfer Sir y Fflint
Wendy JonesSwyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus ar gyfer Sir y Fflint
Mae’r gerddi nid yn unig o fudd i fywyd gwyllt a natur, ond maent hefyd yn gwneud gwahaniaeth i les corfforol a meddyliol y rheiny sydd yn gysylltiedig, nawr ac i’r dyfodol.
Mae hwn yn gyflawniad rhagorol ac rydym wrth ein bodd bod un o’n gerddi a ariannwyd gan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi cael ei chydnabod yn ffurfiol gan Bionet am gael effaith mor fawr ar yr amgylchedd, bywyd gwyllt a lles staff, myfyrwyr ac ymwelwyr yn y coleg. Mae’r wobr hon yn dangos pa mor bwysig yw creu natur ar eich stepen drws i bobl a bywyd gwyllt. Louise TambiniDirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Louise TambiniDirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
19/04/2024
29/02/2024
03/08/2023
12/06/2023