A A A

Gwaharddiad ar blastigau untro – beth nesaf?

Mae heddiw (30 Hydref 2023) yn eiliad bwysig, wrth i’r Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynnyrch Plastigau Untro) (Cymru) ddod i rym o’r diwedd. Mae’r gyfraith yn gwahardd gwerthu a chyflenwi nifer o eitemau, o blatiau a chyllyll a ffyrc untro i ffyn cotwm a ffyn balŵns.

Rydym yn croesawu’r gwaharddiad ac yn gobeithio y byddwn yn gweld gostyngiad sylweddol yn gyflym yn yr eitemau diangen hyn sy’n cael eu taflu ar hyd ein strydoedd, ein parciau a’n traethau.

Yn bwysig iawn, mae’r Ddeddf Plastigau Untro yn cydnabod mai cam cyntaf yw hwn ar daith tuag at leihau llygredd plastig a bod angen dull gweithredu ataliol.

Dewch i ni gadw’r momentwm i fynd

Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gadw’r momentwm i fynd ac ar unwaith yn ystyried eitemau niweidiol ychwanegol y dylid cyfyngu arnynt.

Dylai’r gwaharddiad ymestyn i eitemau sy’n cael eu hystyried yn ddiangen ac sydd naill ai’n anodd eu gwaredu neu eu hailgylchu; neu eitemau y mae dewisiadau amgen addas a hygyrch yn bodoli yn eu lle. Wrth gwrs, ni all cyfyngiadau gael effaith niweidiol ar unrhyw grŵp penodol o bobl, yn cynnwys y rheiny ar incwm is.

Mae’r eitemau canlynol yn bodloni’r meini prawf uchod ac nid ydynt yn destun gofynion Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr arfaethedig:

  • Codenni saws cludfwyd / dogn unigol
  • Cwpanau coffi, ‘caeadon diogelwch’ plastig a chwpanau papur â leinin plastig na ellir ei ailgylchu
  • Deunydd pacio diangen ar ffrwythau a llysiau, fel gorchydd plastig ar giwcymbrau
  • Deunydd lapio amleitem a geir ar gynnyrch fel tuniau ffa pob neu ganiau cwrw
  • Rhaseli, tanwyr a chynnyrch tafladwy eraill
  • Gliter, balŵns, conffeti ac eitemau addurnol dros dro tebyg
  • Bagiau baw ci, sachau cewynnau a bagiau bin nad ydynt yn fioddiraddadwy
  • Hysbysebion papur wedi eu lamineiddio mewn papurau newydd a chylchgronau neu bost sothach
  • Pecynnau brechdanau a hambyrddau prydau parod plastig du
  • Deunydd lapio seolffen ar becynnau sigaréts
  • Pecynnau na ellir eu hailgylchu ar gyfer melysion a chreision
  • Clymau, deunydd pecynnu ac ategion plastig ar deganau plant nad ydynt yn rhan o’r tegan
  • Tagiau plastig e.e. i ddal pris neu labeli maint ar ddillad a chrogfachau dillad plastig
  • Gosodwyr tamponau plastig a deintbigau plastig
  • Ffyn lolipop, papur lapio melysion ac eitemau tebyg

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr. Mae’n rhaid i ni gydnabod bod tueddiadau defnyddwyr yn esblygu drwy’r amser a bod yn barod i ymateb i fygythiadau sy’n dod i’r amlwg yn sgil cynnyrch untro eraill. Felly, rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru’r rhestr o eitemau yn flynyddol.

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith polisi ac ymchwil trwy ddilyn @KWT_Policy ar X.

 

Erthyglau cysylltiedig

Oedi i’r cynllun dychwelyd ernes: ein hymateb

29/04/2024

Darllen mwy
Angen Cynllun Dychwelyd Ernes nawr yn fwy nag erioed

12/03/2024

Darllen mwy
#OchrauFfyrddTaclus: mynd i’r afael â sbwriel ar ochr y ffordd

20/07/2023

Darllen mwy
Pa mor lân yw ein strydoedd yng Nghymru?

13/03/2023

Darllen mwy