Mae treial beicio a sbwriel lleol yn cael ei gynnal trwy gydol mis Mehefin ar Ynys Môn, o’r enw ‘Seiclo am Sbwriel’.
Mae grŵp o feicwyr gwirfoddol lleol wedi cael eu recriwtio a byddant yn cymryd rhan mewn treial dros 6 wythnos, pan fyddant yn mynd i’r afael â llwybrau mwy anodd i’w cyrraedd a ffyrdd ymyl ar hyd yr arfordir, sydd yn aml yn cael eu heffeithio’n wael gan sbwriel o fwytai bwyd brys cyfagos a cheir yn mynd heibio.
Bydd ôl-gerbydau cargo 40kg ynghlwm wrth gefn y beiciau a chânt eu defnyddio i storio sbwriel fydd yn cael ei gasglu yn ystod y treial. Defnyddir codwyr sbwriel y gellir eu plygu hefyd, gan alluogi’r beicwyr i aros yn ddiogel cyn codi’r sbwriel a pharhau ar eu taith.
Edrychwn ymlaen at eu gweld ar hyd y lle dros y mis i ddod.
Mae ‘Seiclo am Sbwriel’ yn cael ei redeg gan Cadwch Gymru’n Daclus fel rhan o’u menter Caru Cymru. Mae Caru Cymru yn fudiad cynhwysol sydd yn cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus a phartneriaid awdurdodau lleol i ddileu sbwriel a gwastraff.
“Wrth i ni agosáu at dymor prysur yr haf ar Ynys Môn, mae gwarchod ein hardaloedd prydferth naturiol a’n mannau gwyrdd yn hynod bwysig.” “Mae lonydd cefn gwlad yn cael eu heffeithio gan sbwriel ar ochr y ffordd ac mae’r rhain yn ardaloedd na fyddent yn cael eu cynnal a’u cadw fel arfer. Trwy “Seiclo am ‘Sbwriel” rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda beicwyr lleol ar yr ynys i fynd i’r afael â sbwriel mewn ffordd wahanol iawn fis Mehefin eleni. “Rydym yn annog pawb sydd â diddordeb yn y treial hwn neu ffyrdd eraill o gymryd rhan yn ein gwaith cyffrous yn mynd i’r afael â sbwriel ledled Cymru i fynd i’n gwefan.” Gareth EvansSwyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus – Ynys Môn
Gareth EvansSwyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus – Ynys Môn
Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
18/10/2024
29/04/2024
12/03/2024
30/10/2023