A A A

Gwledydd yn dod ynghyd i annog Llywodraethau i wneud sbwriel yn ganolog i gynllun newydd ‘y llygrwr sy’n talu’

Mae elusennau amgylcheddol o bob un o’r pedair gwlad sydd yn arwain yr alwad i daliadau sbwriel fod yn gydran allweddol o ddiwygiadau Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) Llywodraeth y DU.

Ynghyd â Keep Britain Tidy, Keep Scotland Beautiful, a Keep Northern Ireland Beautiful, rydym wedi ysgrifennu at Weinidogion yr Amgylchedd yn y Senedd, San Steffan, Holyrood, a Stormont i ofyn iddynt sicrhau bod sbwriel yn cael ei wneud yn rhan o unrhyw gynllun EPR newydd.

Rydym wedi cael cefnogaeth dros 40 o sefydliadau eraill yn cynnwys y Gymdeithas Cadwraeth Forol, y Sefydliad Tirwedd, Sefydliad y Merched a’r RSPCA yn eu galwad i gynhyrchwyr deunydd pacio gael eu dwyn i gyfrif yn llawn am sbwriel y mae eu cynnyrch yn ei greu, gyda thaliadau sbwriel yn cael eu gwneud yn gydran allweddol o gynlluniau EPR y Llywodraeth.

"Gallai taliadau sbwriel mewn EPR newid popeth"

Rydym yn credu bod y cynllun EPR yn rhoi cyfle ystyrlon i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol llawer o broblemau amgylcheddol trwy fabwysiadu egwyddor “y llygrwr sy’n talu” yn llawn. Mae hyn yn ategu’r cynigion trwy symud costau llygredd ymlaen i’r rheiny sydd yn elwa ar roi llawer iawn o ddeunydd pacio ar y farchnad.

Roedd Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a’r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon wedi cynnig, o dan y system EPR sydd i ddod, y byddai cynhyrchwyr yn cael eu gwneud yn gyfrifol am gostau net llawn rheoli gwastraff deunydd pacio, yn cynnwys costau rheoli sbwriel mewn biniau ac ar y ddaear.

Ond deëllir bod y Llywodraeth a gwneuthurwyr polisïau bellach o dan bwysau sylweddol i eithrio taliadau sbwriel yn gyfan gwbl o’r cynlluniau EPR, yn seiliedig ar “naratif diffygiol” mai dim ond y cyhoedd sydd ar fai am sbwriel.

Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda gwledydd eraill y DU er mwyn sicrhau bod cynhyrchwyr yn cael eu dwyn i gyfrif am ddeunydd pacio gormodol, diangen, wedi ei ddylunio’n wael. Datgelodd arolygon glendid strydoedd diweddar raddau llawn ein problem gyda deunydd pacio, gyda deunydd pacio wedi ei ollwng fel sbwriel yn cael ei ganfod ar 64% o strydoedd yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’r cyfrifoldeb dros fynd i’r afael â’r mater hwn gyda’n hawdurdodau lleol, sydd eisoes o dan straen, ac mae’n faich ariannol mawr ar arian cyhoeddus. Credwn y gallai taliadau sbwriel mewn EPR newid popeth, gan drawsnewid y ffordd y mae’r sector preifat yn cefnogi glanhau strydoedd, gweithredu cymunedol a gweithgareddau atal sbwriel.

Lesley Jones
Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Yn ddiweddar, amcangyfrifodd yr ymgynghorwyr cynaliadwyedd, Eunomia, fod cost rheoli deunydd pacio sydd yn cael ei daflu fel sbwriel i awdurdodau lleol tua £384m y flwyddyn ond mae’r ffigur hwn ond yn adlewyrchu rhan fach iawn o broblem deunydd pacio sy’n cael ei daflu fel sbwriel a’r adnoddau sydd eu hangen i fynd i’r afael ag ef.

Nid yw’n adlewyrchu’r costau i gyrff dyletswydd eraill (fel awdurdodau rheilffordd, trafnidiaeth a phriffyrdd) na chyfraniad gwirfoddolwyr codi sbwriel, ac nid yw chwaith yn adlewyrchu’r cronfeydd a’r adnoddau sylweddol a godir ac y ddyrennir ar gyfer ymgyrchoedd atal sbwriel ar draws y DU.

Yn olaf, nid yw’r ffigur yn cynnwys cost tunelli o wastraff plastig nad yw’n cael ei godi wrth lanhau strydoedd i’n hamgylchedd wrth iddo gael ei ollwng yng nghefn gwlad ac yn ein dyfrffyrdd ac, yn y pen draw, ein cefnforoedd.

Erthyglau cysylltiedig

Cadwch Gymru’n Daclus yn dileu sbwriel cas!

24/01/2025

Darllen mwy
Angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng sbwriel cynyddol

18/10/2024

Darllen mwy
Oedi i’r cynllun dychwelyd ernes: ein hymateb

29/04/2024

Darllen mwy
Angen Cynllun Dychwelyd Ernes nawr yn fwy nag erioed

12/03/2024

Darllen mwy