Rydym yn llawn cyffro i gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi ailagor, ac mae gennym gannoedd o becynnau gardd am ddim i’w rhoi i grwpiau a sefydliadau cymunedol.
Ers ei lansio yn 2020, mae dros 1,000 o erddi wedi cael eu creu, eu hadfer a’u gwella ar draws Cymru. Mae grwpiau a sefydliadau cymunedol o bob math a maint wedi cymryd rhan. Y llynedd, roedd hyn yn cynnwys y gwasanaethau brys, grwpiau ieuenctid, clybiau chwaraeon ac elusennau anabledd.
Datblygwyd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i ddechrau i helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd ac argyfyngau natur. Ond mae’r buddion wedi mynd ymhell y tu hwnt i greu cynefinoedd hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt; mae’r gerddi newydd wedi helpu i ddod â chymunedau ynghyd ac wedi rhoi hwb gwerthfawr i iechyd a lles pobl. Rydym yn methu aros i weld mwy o grwpiau a sefydliadau yn cymryd rhan dros y misoedd i ddod, gan greu gofod newydd ar gyfer natur fydd yn cael ei fwynhau am genedlaethau. Rydym yn disgwyl llawer o ddiddordeb, felly gwnewch gais nawr i osgoi cael eich siomi. Owen DerbyshirePrif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Owen DerbyshirePrif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Mae’r pecynnau am ddim yn amrywio o brosiectau garddio bach i berllannau cymunedol ac adnewyddu ar raddfa fawr. Mae pob un yn cynnwys planhigion cynhenid, offer a deunyddiau, canllawiau ar gyfer gosod yr ardd, a chymorth ymarferol gan ein swyddogion prosiect arbenigol.
Eleni gallwch ddewis o’r canlynol:
Pecynnau Dechreuol ar gyfer grwpiau sydd eisiau cynnal prosiect bach tyfu bwyd neu arddio bywyd gwyllt.
Pecynnau Datblygu ar gyfer sefydliadau cymunedol sydd yn barod i wneud trawsnewidiadau mwy, gan greu Gardd Tyfu Bwyd neu Ardd Bywyd Gwyllt ar raddfa fawr.
Perllannau Cymunedol – sy’n boblogaidd iawn! Eich cyfle i greu perllan fach i’ch cymuned ei mwynhau.
Mae’n broses syml. Dewiswch eich pecyn, darllenwch y canllawiau, a llenwch ffurflen gais ar-lein gan sicrhau eich bod yn ateb pob cwestiwn.
Os oes angen cymorth arnoch gyda’ch cais, mae gennym gydlynwyr rhanbarthol wrth law i’ch tywys drwy’r broses.
Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau a chyfranogiad cymunedol, yn ogsytal â’r rheiny mewn trefi, dinasoedd, ardaloedd difreintiedig a mannau heb lawer o fynediad i natur. Rydym hefyd yn awyddus iawn i groesawu ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir ar draws Cymru.
Caiff y ceisiadau eu hasesu bob pythefnos gan baneli grant prosiectau.
> Canfod mwy a gwneud cais
Ariennir y fenter gan Lywodraeth Cymru fel rhan o raglen ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru.
Edrychwch ar #NôliNatur ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf
19/04/2024
29/02/2024
03/08/2023
12/01/2023